Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 699/2024
Cais:
1. Faint o ddigwyddiadau methu â stopio mae’r heddlu wedi’u cofnodi yn y tair blynedd diwethaf [rhwng 6 Ebrill – 5 Ebrill 2021/22, 2022/23, 2023/23]?
1a) O’r rheiny, sawl un arweiniodd at anafedigion, a pha mor ddifrifol oedd yr anafedig?
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Medraf gadarnhau bod y gost o bennu pa un ai a oes unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r cais hwn yn cael ei dal ai peidio’n uwch na’r hyn y mae’n ofynnol yn gyfreithiol inni ymateb iddo. Gan hynny, rydym yn atal y cyfan o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod eithriad Adran 12 (2), y Gost o Gydymffurfio yn fwy na'r Terfyn Priodol, yn gymwys iddo.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n: (a) nodi’r ffaith hwnnw, (b) nodi’r eithriad dan sylw ac (c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys. Gweithredwyd yr eithriad canlynol i’r cyfan o’r wybodaeth y gofynnoch amdani:
Adran 12(2) – Mae’r gost o gydymffurfio’n fwy na’r Terfyn Priodol
Dywed Adran 12(2): “…Nid yw Is-adran (1) yn eithrio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifol cydymffurfio â’r paragraff hwnnw’n fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o roi bennu pa wybodaeth, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r hyn y mae’n ofynnol inni roi’n gyfreithiol h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i chasglu’n fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 78623 awr) i gydymffurfio â’r rhan hwn o’ch cais. Cewch hyd i’r rheoliadau ar: www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Cynghorwyd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth nad yw’r wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais yn cael ei dal ar ffurf sy’n hawdd ei hadalw. Gan hynny, er mwyn sefydlu pa wybodaeth, os o gwbl, sy’n cael ei dal mewn perthynas â’r cais, byddai angen holi’r holl ddigwyddiadau dros y ffrâm amser i nodi pa un ai a oedd y digwyddiad dan sylw’n cynnwys methu â stopio. Ar gyfer y cyfnod a nodir o fewn y cais, sefydlwyd bod cyfanswm o 471749 digwyddiad y byddai angen ymchwilio iddynt. Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd 10 munud o leiaf i ymchwilio i un digwyddiad am berthnasedd i’ch cais fel yr amlinellir uchod, gan arwain at yr amcangyfrif amser canlynol.
06/04/2021 – 05/04/2022 = 154397 digwyddiad x 10 munud = 25732 awr
06/04/2022 – 05/04/2023 = 156125 digwyddiad x 10 munud = 26020 awr
06/04/2023 – 05/04/2024 = 161227 digwyddiad x 10 munud = 26871 awr
Cyfanswm o 78623 awr i gwblhau’r dasg
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel Hysbysiad Gwrthod ar gyfer y cais CYFAN o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn berthnasol, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai yr hoffech fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod i fod o fewn y 18 awr, fodd bynnag, gan roi ystyriaeth ddyledus i’r amcangyfrif o ran amser a ddarperir uchod, mae’n annhebygol y byddai’ch cais yn dod dan y 18 awr gan y byddai angen ymgymryd â’r un dull a ffurf. Os fyddwch angen unrhyw gyngor pellach mewn perthynas â’r mater hwn, peidiwch ag oedi i gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Fe’ch cynghorir hefyd nad yw’n dileu hawl yr Heddlu i ddyfynnu eithriadau os ydynt yn berthnasol os bydd y cais yn cael ei fireinio.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 07/08/2024)