Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwch chi riportio:
Gan ddibynnu beth rydych chi'n ei riportio, mae yna bethau i'w hystyried.
Does dim angen ichi riportio gwrthdrawiad i’r heddlu:
Ym mhob achos arall, mae’n rhaid ichi riportio gwrthdrawiad.
Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch wrth gyflwyno’ch adroddiad. Os oes gennych fideo o ansawdd dda neu dyst annibynnol, gall hynny ein helpu i benderfynu:
Er mwyn rhoi'r cyfle gorau inni weithredu yn erbyn troseddwr, rydyn ni’n gofyn ichi:
Dydyn ni ddim yn debygol o allu mynd â'r achos i'r llys os nad ydych yn cytuno i fod yn bresennol. Os hoffech gael cyngor ar baratoi ar gyfer y llys a'r hyn y gallwn ei wneud i'ch cefnogi, darllenwch am fynd i'r llys.
Os ydych chi'n riportio trosedd gyrru, mae yna gyfyngiadau amser hefyd i fod yn ymwybodol ohonyn nhw.
Yn ôl y gyfraith, o fewn 14 diwrnod ar ôl trosedd yrru, mae'n rhaid inni anfon llythyr i hysbysu rhywun am erlyniad arfaethedig.
Mae angen inni gael eich adroddiad chi o fewn saith diwrnod ar ôl y digwyddiad er mwyn rhoi amser inni wneud hynny. Os byddwch yn cyflwyno'ch adroddiad yn hwyrach na saith diwrnod, mae'n annhebygol y byddwn yn gallu gweithredu.
Rydyn ni’n adolygu pob adroddiad sy’n dod i law. Rydyn ni’n defnyddio'r wybodaeth:
Gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei riportio, mae yna wahanol bethau y byddwn ni'n eu gwneud.
Dim ond os bydd angen inni ofyn rhywbeth i chi y byddwn ni’n cysylltu â chi, er enghraifft os oes arnon ni angen datganiad tyst neu os oes angen ichi ddod i'r llys.
Os gwnaethoch chi riportio gwrthdrawiad heb anaf neu drosedd gyrru, mae'n annhebygol y byddwn yn cysylltu â chi.
Os oes gennyn ni ddigon o dystiolaeth i gymryd camau pellach, rydyn ni’n gallu:
Oni bai bod yr achos yn mynd i'r llys, allwn ni ddim rhoi diweddariad ichi am unrhyw gamau rydyn ni wedi’u cymryd ynglŷn â’ch adroddiad.
Er mwyn rhoi'r cyfle gorau inni gymryd camau pellach, dylai’ch tystiolaeth chi:
Mae'n bwysig nodi:
Mae angen i'ch tystiolaeth ddangos y drosedd rydych chi'n ei riportio. Er enghraifft, os oes rhywun yn mynd drwy olau coch, rhaid ichi ddangos y cerbyd yn croesi'r llinell stop tra bo’r golau’n goch. Neu, os ydych chi'n riportio cythraul gyrru, dylai’ch ffilm ddechrau cyn y digwyddiad.
Dydyn ni ddim yn gallu gwella unrhyw fideos neu ffotograffau y byddwch chi'n eu hanfon.
Dylai unrhyw stampiau amser ar fideos neu ffotograffau gyd-fynd â dyddiad ac amser y digwyddiad y byddwch chi’n eu rhoi inni yn eich adroddiad. Os bydd yr achos yn mynd i'r llys, gofynnir ichi egluro:
Dylai unrhyw fideo rydych chi'n ei uwchlwytho:
Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) yn dweud:
"Os ydych chi’n gweithredu dyfais recordio mewn man cyhoeddus, mae’n bosibl bod arnoch chi rwymedigaethau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae hi er budd ichi i ddod yn gyfarwydd ag unrhyw rwymedigaethau o'r fath sy'n berthnasol ichi, a chydymffurfio â nhw. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am eich rhwymedigaethau, gofynnwch am gyngor cyfreithiol annibynnol i sicrhau na fyddwch chi’n eich rhoi eich hun mewn perygl o gael eich erlyn."
Gallwn ddefnyddio ffotograffau i brofi rhai troseddau, er enghraifft os bydd rhywun yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol. Ond byddai arnoch chi angen fideo i brofi troseddau penodol, fel rhywun yn mynd drwy olau coch.
Os ydych chi'n credu ei bod yn bosibl bod TCC wedi dal y digwyddiad, dylech chi wirio yn gyntaf a yw’r ffordd yn cael ei rheoli gan:
Gallwch ofyn am luniau TCC gan National Highways.
Mae angen gwneud ceisiadau am ffilmiau neu luniau camerâu traffig/teledu cylch cyfyng gan National Highways o fewn pum diwrnod gwaith i'r digwyddiad. Dim ond am saith diwrnod y cedwir ffilmiau neu luniau.
Nid yw Traffic Cymru yn gallu darparu lluniau teledu cylch cyfyng.
Fel arall, mae gan GOV.UK gyngor ar sut i wneud cais am luniau TCC ohonoch chi’ch hun o unrhyw ffynhonnell.
Pan fyddwch chi’n riportio gwrthdrawiad inni, soniwch am y canlynol:
O ran troseddau gyrru, sylwch nad oes digon o amser yn aml i sicrhau TCC:
Os oes gennyn ni ddigon o dystiolaeth i fynd ag achos i'r llys, rydyn ni’n ei rhannu gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG). Fel rhan o achos llys, bydd y diffynnydd hefyd yn gweld y dystiolaeth.
Efallai y bydd eich enw’n cael ei ddatgelu i’r sawl sydd dan amheuaeth yn ystod ein hymchwiliad, megis yn ystod cyfweliad neu yn y llys. Ni fydd unrhyw wybodaeth arall yn cael ei datgelu heblaw am yr hyn sydd yn eich tystiolaeth fideo a’ch tystiolaeth ffotograffig.
Efallai y byddwn ni hefyd yn defnyddio’ch fideo neu’ch ffotograffau i ategu hyfforddiant yr heddlu neu gynlluniau diogelwch ffyrdd. Byddwn ni bob amser yn dilyn y ddeddfwriaeth diogelu data.