Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r holl ddeunydd ar y wefan hon yn ddarostyngedig i hawlfraint. Oni bai y nodir yn benodol bod deunydd ar gael ar gyfer ei ddefnyddio’n gyffredinol yna ni ddylid ei gopïo na’i ailddefnyddio heb ganiatâd penodol Heddlu Dyfed-Powys neu ddeiliaid hawlfraint eraill pan ddefnyddir deunydd dan drwydded.
Yr unig eithriadau yw’r rheini a ganiateir o dan gyfraith hawlfraint, lle gellir defnyddio deunydd heb ganiatâd neu dâl ar gyfer:
Mae hyn yn amodol ar fod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nid cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cyfeirio’n gywir at ffynhonnell y deunydd.
Mae logo Heddlu Dyfed-Powys wedi’i gofrestru yn y Swyddfa Batent fel nod masnach.
Er ein bod y ceisio gwneud yn siŵr bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, fe’i darperir ar sail ‘fel y mae’, heb warantau o unrhyw fath, ac ni roddir unrhyw warant, datganedig neu oblygedig, ynglŷn â chywirdeb neu gyflawnder.
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn atebolrwydd am unrhyw wall neu hepgoriad. Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys yn atebol am unrhyw hawliadau neu golledion o unrhyw fath gan drydydd parti yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, golli elw, iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol sy’n deillio o ddefnyddio neu anallu i ddefnyddio’r wefan hon gan drydydd parti.
Nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol neu gyngor proffesiynol arall.
Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i greu dolenni i unrhyw dudalennau ar y wefan hon. Ni ddylech agor ein tudalennau o fewn fframset neu unrhyw strwythur arall a allai arwain at fod deunydd gan Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei ystyried fel rhan o wefan arall.
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y deunydd ar unrhyw wefan y mae dolen hyperdestun o’r wefan hon yn bodoli. Darperir y dolenni 'fel ag y maent' heb unrhyw warant, datganedig neu oblygedig, am y wybodaeth a ddarperir ynddynt.