Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd byrgleriaid yn targedu ffenestri gan ei bod yn haws cael mynediad drwyddynt na drysau. Gwiriwch i weld sut mae eich ffenestri’n edrych o’r tu allan, gan gael gwared ar unrhyw fannau mynediad posibl lle gallwch.
A oes yna unrhyw waliau, biniau neu ddodrefn gardd y gellir eu defnyddio i gyrraedd ffenestri? Peidiwch â rhoi help i ladron, ac ar gyfer ffenestri hawdd eu cyrraedd, megis y rhai ar y llawr gwaelod, darllenwch ein hawgrymiadau isod.
1. Argymhellir gwydr wedi’i lamineiddio neu ffilm ddiogelwch ar gyfer ffenestri llawr gwaelod a rhai sy’n hawdd eu cyrraedd.
2. Mae atalwyr sash yn rhwystro unrhyw un rhag agor ffenestr sash ddigon i ddringo drwyddi.
3. Argymhellir cloeon gydag allweddi ar gyfer mathau o ffenestri sy’n agor allan, yn hytrach nag i fyny, ac unrhyw ffenestri ar y llawr gwaelod neu hawdd eu cyrraedd. Cofiwch, bydd cloeon ffenestri ond yn effeithiol os cânt eu defnyddio, felly gwiriwch eich bod wedi eu cloi cyn gadael eich cartref neu fynd i’r gwely.
4. Mae cyfyngwyr agor ffenestri yn caniatáu i chi awyru eich cartref ond gwnewch yn siŵr na ellir pigo’r cloeon neu eu datgloi o’r tu allan.
Gwyddom fod lladron yn defnyddio ysgolion i gyrraedd ffenestri uwch sy’n edrych fel pe baent heb eu cloi. Maent yn gwneud hyn er mwyn osgoi synwyryddion larwm ar y llawr isaf. Mae’r ysgolion hyn naill ai’n cael eu canfod mewn gardd neu’n bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn dod â nhw. Dylech sicrhau bod gan ffenestri ar loriau uwch gloeon neu stopiau ar gyfer ffenestri codi. Dylech hefyd ymestyn unrhyw synhwyrydd larwm i gynnwys ystafelloedd uwch.
Os ydych yn gosod ffenestri newydd, ystyriwch bob amser gynhyrchion sydd wedi’u hachredu ar gyfer eu diogelwch gan fod y ffenestri hyn wedi’u profi i safonau Prydeinig ac fe’u cymeradwyir gan gwmnïau yswiriant. Mae PAS 24 2022 yn ansawdd da.
Gall saer cloeon sy’n aelod o Gymdeithas y Seiri Clo awgrymu cloeon ffenestri o’r safon gywir a rhoi cyngor ar wella diogelwch ffenestri.