Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Efallai fod rhywfaint o'r cyngor hwn yn ymddangos yn amlwg, ond mae rhai pethau syml y gallwn eu gwneud i helpu pobl eraill i deimlo'n fwy diogel pan fyddant allan yn gyhoeddus.
Wrth gerdded y tu ôl i rywun, yn enwedig yn y nos, ceisiwch adael cryn bellter rhyngoch chi a'r person sydd o'ch blaen. Cofiwch po agosaf yr ydych chi, y mwyaf bygythiol y gallech ymddangos.
Gall dieithryn sy'n syllu arnoch fod yn fygythiol ac yn gythryblus. Canolbwyntiwch ar rywbeth arall i ddangos nad ydych yn fygythiad. Edrychwch allan o'r ffenestr, anfonwch neges at ffrind, neu darllenwch lyfr neu bapur newydd.
Gall rhywun sy'n rhedeg i fyny y tu ôl i chi, yn enwedig yn y nos, fod yn frawychus.
Os ydych chi allan gyda'r nos, yn rhedeg neu'n cerdded, ac yn gweld rhywun yn cerdded o’ch blaen, croeswch y ffordd, galwch allan i roi gwybod iddyn nhw eich bod ar fin rhedeg heibio neu gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o le pan fyddwch chi'n eu pasio.
Gall yr hyn y byddech chi’n ei ystyried yn ychydig o hwyl, neu’n wenieithio, achosi sarhad, gofid neu hyd yn oed fraw i rywun arall. Cadwch unrhyw sylwadau neu farn i chi'ch hun.
Os ydych chi mewn grŵp o bobl a bod rhywun yn aflonyddu ar berson arall ar y stryd, ceisiwch dawelu'r sefyllfa. Efallai y bydd angen dweud wrth y person hwnnw neu honno ei fod/bod yn ymddwyn yn amhriodol.
Os byddwch yn sylwi bod rhywun yn anghyfforddus gydag ymddygiad rhywun arall, dangoswch eich cefnogaeth drwy ymateb. Gall fod mor syml â sefyll rhwng person a'i aflonyddwr i’w rhwystro rhag gweld yn syth o’i flaen. Gofynnwch i'r person hwnnw neu honno a oes angen unrhyw help arno neu arni, a chefnogwch unrhyw un arall sy'n ymyrryd.
Gall rhannu'r awgrymiadau hyn â phobl eraill gyfrannu'n fawr at wneud i bob un ohonom deimlo'n fwy diogel ar y strydoedd.
Dywedwch wrthym am fan cyhoeddus lle rydych wedi teimlo'n anniogel |
Cynllun peilot yw StreetSafe sydd wedi’i gynllunio i'r cyhoedd allu dweud wrthym yn ddienw am fannau cyhoeddus lle maent wedi teimlo'n anniogel. |