Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Peidiwch â gadael i ladron ei chael hi’n hawdd. Dilynwch y rheolau syml hyn i ddiogelu’ch cerbyd rhag lladron.
Mae cloi eich cerbyd, hyd yn oed pan eich bod yn rhoi petrol ynddo neu pan fydd wedi’i barcio o flaen eich cartref, yn lleihau’n fawr y posibilrwydd iddo gael ei dargedu gan leidr sy’n manteisio ar gyfle. Hyd yn oed os ydych wedi cloi eich cerbyd, edrychwch i weld nad ydych wedi gadael unrhyw ffenestri neu’r to haul ar agor.
Mae’n anghyfreithlon i adael injan eich cerbyd yn rhedeg heb neb yn ei reoli tra eich bod yn crafu’r rhew neu’n ei gynhesu mewn tywydd oer. Os bydd rhywun yn ei gymryd pan fydd yr injan yn rhedeg ni fydd eich cwmni yswiriant yn talu oherwydd ni fyddwch wedi’ch yswirio.
Os oes gan eich cerbyd ddrychau ochr sy’n plygu’n awtomatig pan fydd wedi’i gloi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gloi’n iawn. Mae gangiau troseddol yn chwilio am gerbydau o’r math hyn lle mae’r drychau yn dal allan gan ei bod yn amlwg nad yw’r cerbyd wedi’i gloi.
Ar y cyfan mae cerbydau heddiw yn anoddach eu dwyn nag erioed o’r blaen, oni bai y gall y lleidr gael gafael ar eich allwedd neu ffob er mwyn ei glonio. Dylech gadw eich allweddi yn ddiogel, allan o’r golwg pan fyddwch adref, ac ymhell o’ch drws ffrynt. Nid yw’n anghyffredin i allweddi car gael eu dwyn o du fewn i gartref gan ladron yn pysgota amdanynt gyda ffon a bachyn drwy’r blwch lythyrau.
Os ydych yn gwerthu eich car a'ch bod yn cyfarfod â darpar brynwr, peidiwch â gadael yr allweddi allan o'ch golwg. Efallai y bydd eich allweddi yn cael eu clonio gan ladron a'u defnyddio'n ddiweddarach i ddwyn eich cerbyd.
Mae ceir sydd â mynediad di-allwedd yn datgloi’r car yn awtomatig pan fydd yr allwedd yn dod yn agos iddo. Gall hyn ddigwydd pan fydd mewn poced neu fag. Os oes yn rhaid i chi wasgu botwm ar allwedd eich car i’w agor, nid oes gennych fynediad di-allwedd.
Lladrad ceir di-allwedd neu ‘ladrad trosglwyddo signal' yw pan ddefnyddir dyfais i dwyllo’r car i feddwl bod yr allwedd gerllaw. Mae hyn yn datgloi’r car ac yn ei danio.
Dim ond ychydig fetrau oddi wrth allwedd eich car sydd angen i ladron fod er mwyn cipio’r signal, hyd yn oed os yw’r allwedd tu fewn i’ch cartref. Golyga hyn, hyd yn oed os yw eich car a’ch cartref yn ddiogel, bydd lladron yn dal i allu datgloi, cychwyn a dwyn eich car.
Mae diogelwch ffisegol ychwanegol fel cloeon a dyfeisiau llonyddu cerbydau yn dal i gael eu hargymell yn gryf. Mae mwy o wybodaeth am hyn i’w chael yn Adran chwech ar y dudalen hon.
Nid yw’r ffaith eich bod yn y car bob amser yn mynd i atal rhywun rhag ceisio ei ddwyn.
Pan fyddwch mewn traffig, gyrrwch gyda’r drysau wedi’u cloi a phan fyddwch mewn ciw gadewch ddigon o le o flaen eich cerbyd fel y gallwch adael man cyfyng. Os bydd rhywun yn taro i mewn i’ch cerbyd o’r tu ôl, arhoswch i dynnu i mewn oddi ar y ffordd - mewn man diogel ac, os yn bosibl, rhywle lle mae llawer o bobl. Wedi’r cyfan, nid ydych yn adnabod y person sydd wedi taro i mewn i chi; gall yn hawdd fod yn gipiwr ceir. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ystyriwch ffonio’r heddlu.
Os bydd rhywun yn eich bygwth, mae’n well rhoi allweddi’r cerbyd iddynt na dioddef ymosodiad. Yna ffoniwch 999 cyn gynted â phosibl a gofyn am yr heddlu.
Os caiff eich car ei ddwyn, mae gan rai larymau a systemau tracio cerbydau modern y cyfleuster i lonyddu neu gau’r systemau tanwydd, gan wneud i’r cerbyd stopio a gadael y lleidr mewn trafferth.
Cynghorir chi bob amser i beidio â pharcio mewn ardaloedd tywyll ac anghysbell. Mae’n werth cerdded pum neu ddeng munud ymhellach os yw hynny’n golygu bod eich cerbyd wedi’i adael mewn stryd oleuach a phrysurach.
Os yw hynny’n bosibl, ceisiwch barcio mewn meysydd parcio sydd wedi’u goleuo ac wedi’u staffio neu’r rheini sydd wedi cael dyfarniad parcio diogelach Park Mark. Er mwyn dod o hyd i un, ewch i Park Mark.
Yn aml bydd lladron yn ceisio codi cerbydau’n llythrennol oddi ar y stryd. Felly, os gwelwch griw casglu ceir sydd wedi torri lawr yn ymddwyn yn amheus - yn arbennig os nad oes brandio ar eu cerbyd neu os nad ydynt yn gwisgo gwisg cwmni - riportiwch hynny ar unwaith.
Fel sy’n wir gyda phob achos o riportio ymddygiad amheus a wneir am y rhesymau cywir, ni fyddwn byth yn beio unrhyw am ein ffonio hyd yn oed os canfyddir nad oes sail i’r amheuon.
Oeddech chi’n gwybod bod meysydd parcio sydd â chyfyngiad uchder yn helpu i atal tryciau tynnu anghyfreithlon? Hefyd, gall gosod system larwm graddiad categori 1 neu 2 Thatcham gyda dyfais dracio, llonyddu, atal cydio a synwyryddion symud helpu i ddiogelu a thracio eich cerbyd.
Gall diogelwch ffisegol ychwanegol helpu i atal eich cerbyd rhag cael ei yrru i ffwrdd hyd yn oed os bydd lleidr yn canfod ei ffordd i mewn iddo. Mae Sold Secure yn profi amrywiaeth o gynhyrchion â sgôr diogelwch a all helpu, megis cloeon llyw, blychau pedalau a chloeon ffon gêr.
Gall rhai o'r cynhyrchion hyn, a brofir i safon Sold Secure Diamond, hyd yn oed wrthsefyll peiriant llifanu bach a ddelir yn y llaw.
Mae hefyd yn werth siarad â'ch gwerthwr cerbydau ynglŷn â gosod dyfais llonyddu ôl-farchnad a gymeradwyir gan y gwneuthurwr.
Mae dyfeisiau llonyddu yn atal cerbyd rhag tanio oni bai bod y ffob, yr allwedd neu'r broses tanio cywir yn cael ei defnyddio. Gellir eu personoleiddio fel mai chi yw'r unig un sy'n gwybod sut i'w dadosod drwy nifer o reolaethau ar y dangosfwrdd.
Gellir defnyddio dyfeisiau electronig i jamio’r signal trydanol rhwng eich allwedd ffob a chlo eich cerbyd. Gwiriwch â llaw bob amser bod eich cerbyd wedi cloi cyn cerdded i ffwrdd.
Os nad ydych yn siŵr, clowch ef â llaw ac yna edrych o gwmpas i weld a oes unrhyw un yn loetran. Os bydd lleidr arfaethedig sy’n gwylio yn teimlo bod rhywun wedi’i weld mae’n debygol o symud oddi yno.
Gall newid nodweddion adnabod cerbyd, sef clonio cerbyd, fod mor syml ag ychwanegu platiau rhif cofrestru sydd wedi’u dwyn. Wrth brynu cerbyd, gwiriwch ddogfen V5 y DVLA bob amser a gwnewch yn siŵr mai’r un yw rhif yw Rhif Adnabod y Cerbyd (VIN) a’r un sydd ar y ddogfen.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio mwy nag un VIN yn ogystal â rhifau’r injan ar y cerbyd (gweler y diagram). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth y DU.
Mae gan nifer o’r cerbydau modern agorfa ddiagnostig wedi’i gosod, a all ddatgloi a chychwyn eich cerbyd.
Os oes gan eich cerbyd agorfa o’r math yma, ystyriwch osod clawr y gellir ei gloi drosti.
I gael rhagor o wybodaeth am gynhyrchion gyda manylebau a ffefrir gan yr heddlu sy’n helpu i leihau’r tebygolrwydd o droseddau cerbydau, ewch i: