Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Eich gorsaf betrol yw eich busnes ac rydych am iddi fod mor ddiogel â phosibl. Mae ein cyngor isod yn dangos sut y gallwch helpu i’w chadw’n rhydd o drosedd.
Cadwch lygad ar y pympiau ac os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus gwnewch hi’n glir eich bod wedi eu gweld a gofynnwch iddynt a ydynt angen help. Gallech wneud hyn dros yr uwchseinydd. Neu efallai y byddech am ofyn iddynt gau drws teithiwr y cerbyd - heb wneud i hynny deimlo fel gorchymyn.
Gwrandewch ar eich greddf ond cofiwch nid yw’r ffaith bod rhywun yn edrych yn amheus o reidrwydd yn golygu eu bod ar fin cyflawni trosedd.
Dyma rai arwyddion sy’n awgrymu nad yw pethau efallai fel y maent yn ymddangos:
Pethau i gadw llygad amdanynt:
I gael llawer o awgrymiadau a chynghorion ar sut i gadw eich gorsaf betrol – a’r rheini sy’n gweithio ynddi – yn ddiogel, ewch i wefan British Oil Security Syndicate (BOSS). Mae’r cynllun Forecourt Watch hefyd yn annog garejis i gydweithio â’r heddlu i rannu gwybodaeth am droseddau mewn gorsafoedd petrol.