Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os oes rhywun yn ffonio yn honni bod o gwmni y mae gennych berthynas fusnes â hi a'ch bod yn amheus ynglŷn â’r alwad neu hunaniaeth y galwr, gallwch:
Mae herwgipwyr cwmnïau fel arfer yn golygu bod twyllwyr yn newid manylion cyfarwyddwr cwmnïau a swyddfeydd cofrestredig. Er mwyn ei rwystro rhag digwydd i chi, ymunwch â chynllun PROOF Tŷ’r Cwmnïau a chofrestru gyda’r gwasanaeth gwe-ffeilio.
Mae twyll cwmni tymor byr yn dilyn herwgipio cwmni yn aml iawn.
Dyma pan fydd troseddwyr yn herwgipio neu’n sefydlu busnes sy'n ymddangos yn gyfreithlon i dwyllo ei gyflenwyr a’i gwsmeriaid.
Maen nhw’n hapus i ddelio ag unrhyw nwyddau neu wasanaethau sydd â gwerth ar y farchnad, yn ddelfrydol os na ellir eu holrhain a bod modd cael gwared ohonyn nhw’n hawdd, fel nwyddau trydanol, teganau, gwin, gwirod a phethau melys.
Mae gan eich busnes berthynas â chwmni sydd ag enw da a hanes credyd da. Mae’r cwmni yn gwneud nifer o archebion bach gyda chi, ac yn talu’n brydlon. Rydych chi'n ymddiried yn y cwmni hwn fel cyflenwr.
Mae’r cwmni yn newid ei weithgaredd, ac yn gwneud archebion llawer mwy o faint gyda chi. Rydych chi’n cyflenwi eich nwyddau ond mae’r cwmni’n diflannu heb eich talu ac yn gwerthu’r nwyddau.
Mae eich cwmni yn cyflenwi i fusnes newydd. Mae’n gwmni cyfyngedig, efallai ei fod wedi cyflwyno sawl set o gyfrifon a phenodiadau cyfarwyddwyr ffug yn Nhŷ’r Cwmnïau mewn cyfnod byr. Efallai y bydd hefyd yn darparu geirda masnachol ffug i edrych fel pe baen nhw’n haeddu credyd.
Nid oes gan y cwmni unrhyw weithgaredd masnachu o ddydd i ddydd. Mae'n cael nwyddau o'ch busnes ar gredyd, sy'n cael eu danfon i gyfeiriadau trydydd parti. Unwaith eto, mae’r cwmni yn diflannu heb eich talu ac yn gwerthu’r nwyddau am arian parod.
Sicrhewch fanylion llawn cwsmeriaid, gan gynnwys manylion personol y rhai sydd â rheolaeth.
Dylech hefyd gael geirda masnachol. Rhaid i'r rhain ddod o fwy nag un ffynhonnell, a gofynnwch i gwmnïau pa mor hir maen nhw wedi adnabod y busnes.
Dylech gadarnhau cyfeiriad eu busnes ac, os gallwch chi, cysylltwch â chyfarwyddwyr y cwmni i wneud yn siŵr eich bod yn hapus â phwy maen nhw'n dweud ydyn nhw.
Cwblhewch wiriadau gyda Thŷ’r Cwmnïau yn ogystal â geirda’r banc. Gwiriwch hefyd gydag asiantaethau gwirio credyd cyfarwydd i weld a fu patrymau ffeilio anarferol neu gynnydd dramatig mewn chwiliadau credyd.
Os yw hyn yn rhy gostus, defnyddiwch wiriadau ffynhonnell agored. Gall chwilio am gyfarwyddwr y cwmni, cyfeiriadau ac enwau masnachu fod yn wybodaeth hollbwysig i chi.
Os oes gennych amser, ceisiwch ymweld â darpar gwsmeriaid am archwiliad go iawn o’r safle.
Cofiwch gael rhifau llinell dir, ac nid rhif ffonau symudol yn unig. Dylech gadarnhau’r manylion hyn a gwirio eu bod yn ateb y ffôn gydag enw iawn y cwmni.
Peidiwch â derbyn archebion sydd wedi’u hysgrifennu â llaw.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Mae twyll ansolfedd a methdalu yn ymwneud â chwmnïau yn masnachu'n dwyllodrus ychydig cyn cael eu datgan yn fethdalwyr, neu gall ymwneud â ‘chwmnïau ffenics’.
Mae cwmnïau ffenics yn cael eu sefydlu yn syth ar ôl i gwmni arall fynd yn fethdalwyr gyda’r un cyfarwyddwyr, ond dydyn nhw ddim yn atebol i dalu am golledion y cwmni blaenorol oherwydd eu bod yn endidau gwahanol.
Gall cwmnïau ffenics fod yn gwbl gyfreithlon. Mae’r twyll yn digwydd pan fydd cyfarwyddwyr yn trosglwyddo asedau’r cwmni aflwyddiannus islaw eu gwerth ar y farchnad cyn yr ansolfedd.
Drwy wneud hynny, mae'r cyfarwyddwyr yn lleihau'r arian sydd ar gael i gredydwyr pan ddaw'r cwmni gwreiddiol yn fethdalwyr. O ganlyniad, mae’r credydwyr ar eu colled am y nwyddau a’r gwasanaethau a gyflenwyd.
Mae troseddau cysylltiedig eraill yn cynnwys ail-ddefnyddio enwau gwaharddedig neu gyfarwyddwyr sy’n weithredol tra’u bod wedi’u gwahardd.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.