Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae twyll gwyliau ar gynnydd wrth i bobl ddefnyddio gwefannau trefnu gwyliau yn amlach.
Bydd sgamwyr yn rhestru ystafell mewn gwesty neu lety sydd ddim ar gael neu ddim yn bodoli. Yn aml, dim ond pan fyddan nhw’n cyrraedd pen eu taith y mae dioddefwyr yn sylweddoli mai sgam ydyw, ac erbyn hynny mae'r twyllwr wedi hen ddiflannu.
Efallai y bydd sgamwyr eisiau i chi eu talu nhw drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, ac nid drwy’r wefan. Maen nhw’n eich denu chi i wneud hynny drwy gynnig prisiau rhatach am drosglwyddiadau banc uniongyrchol. Peidiwch â chael eich temtio.
Yn aml, bydd sgamiwr yn defnyddio lluniau o’r llety sydd wedi’u copïo o safleoedd eraill. Defnyddiwch Google Images i weld os yw’r llun wedi’i ddefnyddio rywle arall.
Gall y sgamiwr, neu’r hysbyseb, honni eu bod yn perthyn i gorff masnach cyfreithlon neu gynllun amddiffyn defnyddwyr, fel Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA). Cysylltwch â’r corff neu’r cynllun i weld manylion y person.
Ymchwiliwch y llety eich hun. Edrychwch i weld os oes gan y llety ei wefan ei hun. Ceisiwch ffonio perchennog y llety i gadarnhau eu bod yn gwybod am eich trefniant posib. Os na allwch weld rhif ffôn, anfonwch ebost yn gofyn am un.
Gall fod yn anodd cael gafael ar docynnau i weld eich hoff fand, tîm pêl-droed, drama neu ŵyl gan eu bod yn gwerthu allan yn gyflym. Mae sgamwyr yn cymryd mantais o hynny drwy eich denu i brynu tocynnau sy'n troi allan i fod yn ffug neu mae eu gwefannau yn cynnig tocynnau na allan nhw eu cynnig ond sy'n hapus i gymryd yr arian amdanyn nhw.
Bydd gwefan y sgamiwr yn cynnig tocynnau nad ydyn nhw eto ar werth neu i ddigwyddiadau sydd wedi gwerthu allan. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cael y tocynnau y gwnaethoch dalu amdanyn nhw, ond yn y digwyddiad byddwch yn sylweddoli eu bod yn ffug, neu’n docynnau sydd wedi’u riportio ar goll neu wedi'u dwyn, ac felly’n annilys.
Efallai y bydd sgamwyr yn dweud wrthych y bydd cynrychiolydd yn cwrdd â chi yn y digwyddiad gyda’ch tocynnau, ond does dim golwg ohonyn nhw.
Talwch am docynnau gyda’ch cerdyn credyd, gan ei fod yn cynnig diogelwch o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr os cewch eich sgamio.
Edrychwch ar-lein am adolygiadau negyddol o’r wefan rydych yn awyddus i’w defnyddio.
Cofiwch, yr unig ffordd i osgoi cael eich sgamio yw i brynu tocynnau oddi wrth:
Os yw’r safle yn dangos logo Cymdeithas yr Asiantau a Gwerthwyr Tocynnau (STAR) gallwch weld os ydyn nhw’n aelodau go iawn drwy gysylltu â STAR yn uniongyrchol.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio’r rhain a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.