Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod Prosiect Servator yw amharu ar ystod o weithgarwch troseddol, yn cynnwys terfysgaeth, tra’n rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd. Mae ein swyddogion yn brofiadol ac wedi’u hyfforddi’n arbennig i sylwi ar arwyddion bod rhywun yn cynllunio neu’n paratoi i gyflawni trosedd.
Credwn 'Gyda’n gilydd, mae gennym y gallu', felly rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys heddluoedd eraill, busnesau a’r cyhoedd, i barhau i ddiogelu ein strydoedd a phawb sy’n byw, yn gweithio’n neu’n ymweld a’i gwneud hi’n anodd i droseddwyr a therfysgwyr weithredu.
Bydd ein swyddogion yn cyrraedd yn ddirybudd mewn gwahanol leoliadau. Gallai’r patrolau hyn barhau am wahanol gyfnodau o amser a chynnwys niferoedd amrywiol o swyddogion.
Fe welwch, o leiaf, swyddogion mewn lifrai ac yn eu dillad eu hunain, ond efallai y byddwn hefyd yn cynnwys swyddogion o adrannau eraill megis unedau cŵn neu geffylau neu swyddogion arfog, yn dibynnu ar ein gofynion penodol.
Efallai y byddwn hefyd yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain mewn canolfannau trafnidiaeth neu Heddlu Hedfan mewn meysydd awyr.
Bydd swyddogion yn siarad â’r cyhoedd, busnesau lleol a staff diogelwch lleol i roi gwybod iddynt beth maent yn ei wneud ac i’w hatgoffa i fod ar eu gwyliadwriaeth, ymddiried yn eu greddf a riportio unrhyw ymddygiad amheus neu anarferol.
Efallai y byddwch hefyd yn gweld posteri a swyddogion yn dosbarthu taflenni sy’n egluro rhagor am Brosiect Servator.
Mae patrolau Prosiect Servator yn rhai gweladwy iawn, ond os gwelwch ein swyddogion yn eich ardal, nid oes angen i chi bryderu. Gweithgarwch arferol yr heddlu ydyw ac nid yw wedi’i gysylltu i unrhyw wybodaeth benodol am fygythiad i’r ardal.
Mae gweithio gyda’r gymuned yn rhan hollbwysig o wneud Prosiect Servator yn llwyddiant, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi siarad â’n swyddogion.
Mae gennych rôl bwysig i’w chwarae mewn helpu i gadw ein strydoedd yn ddiogel drwy riportio unrhyw beth sydd ddim y teimlo’n iawn, er enghraifft eitem heb neb yn ei gwarchod neu rywun yn ymddwyn yn amheus.
Ewch chi byth i drwbl am riportio pryder dilys a byddwn bob amser yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r hyn y byddwch yn ei riportio.
Os byddwch yn gweld rhywbeth amheus, dywedwch wrth swyddog heddlu, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i ddweud wrthym am weithgarwch terfysgol posibl, neu ffoniwch y Llinell Frys Gwrthderfysgaeth gyfrinachol ar 0800 789 321. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Fe gewch ragor o wybodaeth am yr hyn i gadw llygad amdano a sut i’w riportio yn ACT (Action Counters Terrorism).
Mae ein swyddogion hefyd yn ymgysylltu â’r gymuned ar-lein, gan rannu gwybodaeth am Brosiect Servator a’i lwyddiannau. Ar Twitter, dilynwch #ProjectServator.