Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae angen ichi lenwi adrannau priodol yr hysbysiad a'i anfon i'r cyfeiriad ar flaen y ffurflen o fewn 28 diwrnod.
Fel arfer wedyn, byddwch yn cael cynnig amodol o gosb benodedig, sef dirwy o £100 ac ychwanegu tri phwynt cosb at eich trwydded. Er hynny, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cwrs Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Cenedlaethol yn lle hynny.
Os na fyddwch yn ymateb i'r hysbysiad caiff eich achos ei gyfeirio i'r llys oherwydd i chi fethu â darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’r Heddlu.
Peidiwch ag anfon unrhyw daliad na'ch trwydded yrru at yr Heddlu.
Os ydych chi wedi cael eich recordio ar yr hyn sy’n cael ei ystyried yn gyflymder uchel caiff y digwyddiad ei atgyfeirio i’r llys yn y lle cyntaf. Bydd yn dal angen i chi ddychwelyd y ffurflen wedi’i llenwi ac unwaith y bydd wedi’i phrosesu byddwch yn derbyn gwŷs llys.
Mae angen ichi lenwi adrannau priodol yr hysbysiad a'i anfon i'r cyfeiriad ar flaen y ffurflen o fewn 28 diwrnod.
Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cwrs Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Cenedlaethol, ond os nad ydych, yna caiff y mater ei gyfeirio at y llys.
Unwaith y byddwch wedi ymateb i’r hysbysiad, ac wedi gwneud hynny o fewn yr amserlen sy’n ofynnol, gallech dderbyn:
Bydd yr heddlu’n ystyried y seiliau canlynol wrth asesu eich cymhwysedd ar gyfer y cwrs ymwybyddiaeth gyrwyr:
Sylwch:
Nid oes hawl gyfreithiol i gwrs, caiff y rhain eu cynnig yn ôl disgresiwn yr heddlu yn unig, ac nid oes gan y llysoedd unrhyw bwerau dros gyrsiau. Os cynigir cwrs i chi, gall yr heddlu dynnu’r cynnig yn ôl ar unrhyw adeg cyn i’r cwrs gael ei gwblhau’n llwyddiannus.
Bydd gofyn i chi anfon manylion cywir eich trwydded yrru a’ch dyddiad geni atom. Os ydych yn wladolyn tramor ac wedi cael trwydded gan y DVLA yna dylech ddarparu manylion y drwydded a roddwyd gan y DVLA. Os nad oes gennych drwydded y DU yna mae’n rhaid i chi anfon rhif y drwydded a’r wlad y tu allan i’r DU a roddodd eich trwydded atom.