Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall pobl â dementia ddechrau crwydro weithiau. Efallai mai dim ond i’r ardd neu i’r stryd am gyfnod byr y byddant yn crwydro, ond weithiau bydd pobl yn mynd ar goll a neb yn gwybod lle’r ydynt.
Gall gofalwyr, teulu neu ffrindiau’r person agored i niwed, neu hyd yn oed yr unigolyn ei hun, lenwi ffurflen Protocol Herbert ymlaen llaw, sy'n cynnwys gwybodaeth i helpu'r heddlu os bydd y person yn mynd ar goll.
Drwy gadw’r ffurflen wrth law, fydd dim rhaid i chi geisio cofio’r wybodaeth pan fyddwch chi dan straen os bydd rhywun yn mynd ar goll. Ac mae’n arbed amser, oherwydd gallwn ni ddechrau chwilio’n gynt.
Ffurflen Protocol Herbert (PDF 202KB)
Defnyddiwch eich barn broffesiynol fel gofalwr neu’ch crebwyll fel aelod o’r teulu i benderfynu a yw person mewn perygl o fynd ar goll.
Gall gofalwr mewn cartref gofal, teulu, ffrindiau neu'r person ei hun lenwi'r ffurflen.
Gofynnwch am ganiatâd y person sydd mewn perygl neu berthynas cyn i chi lenwi ffurflen. Os nad yw hynny'n bosibl, gall y cartref gofal lenwi ffurflen os yw'n credu ei bod er lles gorau'r person.
Gall llenwi’r ffurflen gyda’r person fod yn gyfle i hel atgofion a gall fod yn amser gwerthfawr yng nghwmni eich gilydd. Byddwch yn ymwybodol, fodd bynnag, y gall rhai atgofion beri gofid.
Gallwch lenwi’r ffurflen ar eich cyfrifiadur neu ei hargraffu a’i llenwi â llaw. Cadwch y ffurflen yn ddiogel lle gallwch ddod o hyd iddi’n hawdd os bydd y person yn mynd ar goll. Gallech roi copi i ffrindiau, i aelodau o’r teulu ac i gymdogion.
Dim ond os bydd y person yn mynd ar goll y bydd angen i chi ei rhoi i’r heddlu. Bydd yr heddlu’n gofyn cwestiynau ychwanegol i chi am yr hyn a ddigwyddodd adeg y diflaniad a beth oedd y person sydd wedi mynd ar goll yn ei wisgo.
Rhaid i gartrefi gofal storio’r ffurflen yn gyfreithlon yn unol â chyfreithiau diogelu data.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru’r ffurflen os bydd rhywbeth yn newid, er enghraifft eu meddyginiaeth neu os bydd eu trefn ddyddiol yn newid.
Os byddwch yn darganfod bod rhywun ar goll, chwiliwch amdanynt o gwmpas y tŷ neu gartref, gan gynnwys yn yr ardd ac mewn unrhyw dai allan.
Os nad ydych chi’n dod o hyd iddyn nhw, ffoniwch 999 ar unwaith. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch eich gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Peidiwch â phoeni - fyddwch chi ddim yn cael eich beirniadu am ffonio'r heddlu os ydych chi'n poeni am ddiogelwch rhywun.
Pan fyddwch yn ein ffonio, soniwch fod gennych broffil Protocol Herbert ar gael.
Os oes gennych fersiwn electronig o’r ffurflen, gofynnwch am gyfeiriad ebost er mwyn i chi allu ebostio’r ffurflen atom. Os oes gennych gopi papur, gwnewch yn siŵr ei fod wrth law pan fydd yr heddlu’n cyrraedd.
Byddwn yn gofyn cwestiynau ychwanegol i chi am yr hyn sydd wedi digwydd, gan gynnwys ble a phryd cafodd y person ei weld ddiwethaf a beth oedd yn ei wisgo a’i gario.