Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tystysgrif heddlu yn cadarnhau a oes gennych record droseddol yn y Deyrnas Unedig ai peidio ac mae ei hangen fel rhan o’r broses fisa gan yr uchel gomisiwn neu lysgenhadaeth priodol.
Gallai hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth am hanes troseddol dramor os yw ar gael i’r DU.
os ydych am ymfudo i unrhyw un o’r gwledydd canlynol
os oes angen i chi wneud cais am fisa ar gyfer unrhyw un o’r gwledydd canlynol
Nid oes angen tystysgrif heddlu pan fyddwch yn gwneud cais am waith yn y DU, neu os ydych am ymfudo i’r DU.
I gael rhagor o wybodaeth a chostau, ac i wneud cais am dystysgrif heddlu, ewch i wefan swyddogol ACRO.