Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’r dull Gofal Cywir, Person Cywir yn asesu ai’r heddlu yw’r gwasanaeth mwyaf priodol i ymateb.
Gall fod angen yr heddlu mewn rhai digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ond fe allai gwasanaethau eraill fod yn fwy priodol. Mae gan staff iechyd a gofal cymdeithasol y profiad a'r hyfforddiant i roi’r cymorth perthnasol ynglŷn ag iechyd corfforol a meddyliol.
Nod y dull yma yw:
Mae heddluoedd sy'n defnyddio'r dull hwn eisoes wedi elwa drwy lwyddo i ddarparu ymatebion mwy priodol.
Yn Lloegr, mae’r heddlu ac asiantaethau partner wedi llofnodi Cytundeb Partneriaeth Cenedlaethol. Byddan nhw’n cydweithio i sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth gywir. Mae eu cyfarfodydd rheolaidd yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu a gwell gwasanaethau.
Mae'r cytundeb hwn wedi’i wneud rhwng y canlynol:
Yng Nghymru, rhwng yr heddlu ac asiantaethau partner y mae’r cytundeb. Maent wedi ffurfio Grŵp Partneriaeth Genedlaethol.
Mae hyn yn cynnwys:
Byddant yn gweithio gyda’i gilydd i helpu i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir.
Sylwch: Nid yw Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi mabwysiadu Gofal Cywir Person Cywir ac mae’n adolygu sut y bydd yn ymateb i ddigwyddiadau iechyd meddwl o dan y prosiect "Mental Health Crisis to Care".
Os mai ni yw'r gwasanaeth mwyaf priodol, byddwn ni'n ymateb pan mae:
Byddwn ni’n dal i ymateb i adroddiadau am drosedd yn y ffordd arferol.
Byddwn ni bob amser yn dod atoch chi os mai ni yw’r gwasanaeth cywir i ymateb. Rydyn ni’n asesu pob cais yn erbyn pethau fel bygythiad, niwed, risg a bregusrwydd. Mae'r dull Gofal Cywir, Person Cywir yn dod yn rhan o'r broses hon.
Darllenwch y papur Polisi: Cytundeb Partneriaeth Cenedlaethol: Gofal Cywir, Person Cywir (RCRP)
Gweler Pecyn cymorth Gofal Cywir, Person Cywir y Coleg Plismona
Pan fydd yn briodol ymateb, mae yna offer i helpu'r heddlu i ddod o hyd i'r wybodaeth gywir yn gynt.
Pobl sy’n agored i niwed ac sydd mewn perygl o fynd ar goll..