Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran yma:
Mae stelcio ac aflonyddu yn droseddau tebyg. Maent yn cynnwys ymddygiad digroeso dro ar ôl tro gan berson arall tuag atoch. Mae’r ymddygiad digroeso hwn yn effeithio ar eich bywyd neu’ch gweithgareddau dyddiol.
Os yw’r ymddygiad hwn wedi digwydd ddwywaith neu fwy, gall fod yn drosedd a gallwch ei riportio i ni.
Fodd bynnag, os bydd ymddygiad digroeso yn digwydd unwaith, gall fod yn fath gwahanol o drosedd. Riportiwch y digwyddiad i ni. Rydym am wybod am ymddygiad digroeso cyn gynted â phosibl fel y gallwn eich helpu a chymryd y camau cywir.
Mae stelcio ac aflonyddu yn droseddau o dan Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997. Rydym yn cymryd y troseddau hyn o ddifrif ac rydym yma i’ch cefnogi.
Os nad ydych yn siŵr a yw’r digwyddiad yn stelcio neu’n aflonyddu, gan y gallant fod yn debyg - dywedwch wrthym beth sydd wedi bod yn digwydd a byddwn yn egluro a oes trosedd wedi digwydd a beth ydyw.
Aflonyddu yw pan fydd rhywun yn eich targedu dro ar ôl tro gydag ymddygiad digroeso. Mae’r ymddygiad digroeso hwn yn effeithio ar eich bywyd.
Gall aflonyddu gynnwys:
Rhaid iddo ddigwydd ddwywaith neu fwy er mwyn iddo fod yn drosedd aflonyddu.
Stelcio yw pan fydd rhywun yn eich targedu dro ar ôl tro gydag ymddygiad digroeso. Mae’r ymddygiad yn obsesiynol a gall olygu bod yn rhaid i chi newid eich bywyd neu’ch gweithgareddau dyddiol.
Gall stelcio gynnwys:
Rhaid iddo ddigwydd ddwywaith neu fwy iddo fod yn drosedd stelcio.
Gall stelcio neu aflonyddu ddigwydd ar-lein gan ddefnyddio’r rhyngrwyd, apiau, neu blatfformau digidol eraill, neu drwy ddefnyddio technoleg arall megis dyfeisiau olrhain neu feddalwedd ysbïo.
Gall stelcio neu aflonyddu ar-lein gynnwys:
Os yw’r ymddygiad digroeso hwn wedi digwydd ddwywaith neu fwy, gall fod yn stelcio neu’n aflonyddu. Os yw wedi digwydd unwaith, gall fod yn fath gwahanol o drosedd.
Gall stelcio ac aflonyddu gael effaith ddifrifol ar eich iechyd meddwl, eich lles corfforol a’ch bywyd bob dydd. Mae rhai pobl sydd wedi cael eu stelcio neu eu haflonyddu wedi gorfod gwneud newidiadau i’w bywydau bob dydd; mae rhai wedi newid swyddi neu symud tŷ.
Mae’n bwysig eich bod chi’n cael y cymorth sydd ei angen arnoch os yw hyn yn rhywbeth rydych chi’n ei brofi. Nid ydych chi ar eich pen eich hun, mae cefnogaeth ar gael i chi.
Os nad ydych chi’n barod i riportio’r peth i ni, mae hynny’n iawn, mae sefydliadau eraill a all roi cyngor a help i chi.
Nesaf: Beth i’w wneud nawr os ydych chi’n cael eich stelcio neu’ch aflonyddu