Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r modd y mae’r heddlu’n defnyddio camerâu TCC yn gorfod bod yn gyfrifol, gan ddilyn y ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol. Mae'r tudalen hwn yn esbonio sut rydyn ni'n gwneud hyn.
Rydyn ni’n defnyddio camerâu gwyliadwriaeth er mwyn:
Mae dros 150 o gamerâu wedi'u gosod ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys. Gallwch weld y manylion amdanynt yn ein rhestr trefi.
Rydyn ni’n asesu’n defnydd ar y system camerâu TCC yn unol â'r gofynion ynglŷn â rheoli gwybodaeth yn y Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth, sy'n rhoi canllawiau ar ddefnyddio camerâu gwyliadwriaeth yn briodol ac yn effeithiol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r cod wedi’i seilio ar 12 egwyddor arweiniol sy’n taro cydbwysedd rhwng diogelu’r cyhoedd a chynnal hawliau sifil.
Rydyn ni wedi cynnal Hunanasesiad o dan y Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth, sy'n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r 12 egwyddor arweiniol hyn. Rydym yn cwblhau Asesiadau o'r Effaith ar Breifatrwydd ar yr holl gamerâu TCC ac mae'r system TCC yn cael ei hadolygu'n flynyddol.
Mae’r Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd (PIA) ar gyfer lleoliad pob camera TCC ar gael yn ein rhestr trefi.
Rydyn ni hefyd wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data i nodi unrhyw faterion ynglŷn â phreifatrwydd sy’n codi gyda’r mathau hyn o gamera.
Mae'n bwysig nad yw data o gamerâu yn cael ei gadw am gyfnod hirach nag y mae ei angen. Rydym yn dilyn y canllawiau ar Reoli Gwybodaeth yr Heddlu – Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ynghylch cadw a gwaredu data.
Mae’r data’n cael ei gadw mewn mannau diogel ac mae mynediad iddo wedi'i gyfyngu i'r rhai sydd â chaniatâd ac angen dilys. Rhaid cael proses archwilio gadarn i reoli pwy sy'n gweld y data.
Caiff y polisi TCC ei adolygu bob dwy flynedd, ac mae ar gael yma.
Rydym yn cymryd diogelwch gwybodaeth ac unrhyw ddata a gawn ni am unigolion ar gamerâu gwyliadwriaeth o ddifrif. Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd i weld yr hyn rydyn ni’n ei wneud â'r wybodaeth sydd gennym.
Os oes arnoch angen gwybodaeth am y system TCC, gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i'n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth.
Os hoffech wybod a oes gennym unrhyw ddata amdanoch chi neu'ch cerbyd sydd wedi'i gasglu gan gamerâu gwyliadwriaeth, gallwch wneud cais testun am weld gwybodaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am ein defnydd o gamerâu TCC, cysylltwch â’r:
Cydlynydd TCC
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF
E-bost: [email protected]
Aberdaugleddau: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
292KB
290KB
284KB
Rhydaman: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
273KB
284KB
271KB
249KB
Aberhonddu: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Llanfair-ym-muallt: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Porth Tywyn: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Aberteifi: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Caerfyrddin: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
242KB
255KB
242KB
242KB
242KB
242KB
241KB
241KB
242KB
246KB
242KB
251KB
262KB
Abergwaun: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Hwlffordd: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
274KB
274KB
273KB
Llanbedr Pont Steffan: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Llandrindod: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Llanelli: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
718KB
718KB
719KB
718KB
719KB
721KB
Llwynhendy: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Machynlleth: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
707KB
706KB
Aberdaugleddau: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
722KB
721KB
718KB
Arberth: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
293KB
Castell Newydd Emlyn: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Y Drenewydd: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Penfro: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Doc Penfro: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Saundersfoot: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Dinbych-y-pysgod: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Y Trallwng: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.
Ystradgynlais: asesiadau effaith preifatrwydd a lleoliadau camerâu teledu cylch cyfyng.