Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 725/2024
Cais:
Faint o swyddogion a staff yr heddlu sydd ar hyn o bryd dan ymchwiliad oherwydd camymddwyn a chamymddwyn difrifol yn gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod a merched*?NODER: Drwy gamymddwyn a chamymddwyn difrifol yn gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod a merched rydym yn golygu fel y mesurir gan Feincnod Trais yn Erbyn Menywod a Merched Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu sef rhyw ffurf o ymddygiad rhywiol amhriodol (trais, ymddygiad rhywiol, camfanteisio ar swydd at ddibenion rhywiol ac ymddygiad rhywiol arall) ac ymddygiad annheilwng, sy’n safon diffiniedig o ymddygiad proffesiynol a fyddai’n cynnwys ymddygiadau rhywiol amhriodol neu gam-drin domestig.
NODER: Drwy gamymddwyn a chamymddwyn difrifol, rydym yn golygu fel y diffinnir dan Reoliad 2(1) Rheoliadau (Ymddygiad) yr Heddlu 2020, mae camymddwyn yn golygu tor Safonau Ymddygiad Proffesiynol sydd mor ddifrifol fel ei fod yn cyfiawnhau camau gweithredu disgyblu ac mae camymddwyn difrifol yn golygu tor Safonau Ymddygiad Proffesiynol sydd mor ddifrifol fel ei fod yn cyfiawnhau diswyddo.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Ar 13/08/24 - 9
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 15/08/2024)