Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 694/2024
Cais 1 - 6:
Ymateb 1:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Na.
Ymateb 2:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ar yr amod bod gan yr aelod staff bresgripsiwn ar gyfer y feddyginiaeth ac yn ei defnyddio yn unol â’r cyngor meddygol (fel gydag unrhyw feddyginiaethau eraill), yna mae meddu arno a’i ddefnyddio yn gyfreithlon. (Pe bai’r feddyginiaeth yn cael ei chamddefnyddio, ac o ganlyniad, nid oedd yr unigolyn yn ffit ar gyfer gwaith, byddai polisïau presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad yn berthnasol ar gyfer y cam-drin a’i ymddygiad.)
Er y gallai profion cyffuriau gael eu cynnal a thynnu sylw at broblem bosibl, byddai amgylchiadau presgripsiwn yn atal hyn. Daw cymorth ar gyfer yr aelod staff, a chyngor ac arweiniad ar gyfer y cyflogwr, drwy’r Uned Iechyd Galwedigaethol a rheolwyr llinell a’i weithredu ar sail achos wrth achos (yn unol â’r egwyddorion o beidio â gwahaniaethu’n anghyfreithlon). Er nad wyf yn credu bod polisi penodol ar hyn o bryd, byddai angen i’r ffordd y mae’r aelod staff yn cael ei drin gydymffurfio â chyflogaeth gyfreithlon, gefnogol a da.
Ystyrir/gweithredir addasiadau rhesymol fesul achos.
Ymateb 3:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mewn achosion lle mae staff yn derbyn presgripsiwn gan feddygon arbenigol ar gyfer cynnyrch sy’n seiliedig ar ganabis at ddibenion meddygol, rhaid iddynt hysbysu eu Swyddog Ardal Cymorth a Hyfforddiant Adnoddau Dynol a’r Uned Iechyd Galwedigaethol. Dylid datgan y defnydd o gynnyrch sy’n seiliedig ar ganabis at ddibenion meddygol wrth ddarparu unrhyw brawf cyffuriau ar hap neu achos teilwng dilynol. Bydd hyn yn caniatáu i’r darparwr gwasanaeth annibynnol ystyried defnydd o’r fath ac osgoi canlyniadau prawf positif ffug.
Daw cymorth ar gyfer yr aelod staff, cyngor ac arweiniad drwy’r Adran Iechyd Galwedigaethol a’i reolwr llinell. Byddai hyn yn cael ei weithredu ar sail achos wrth achos a byddai angen i’r ffordd yr ymdrinnir â’r aelod staff gydymffurfio ag amgylchedd cyfreithlon, cefnogol a da.
Ymateb 4:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Na
Ymateb 5:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ni ddarperir hyfforddiant penodol.
Ymateb 6:
Medraf gadarnhau nad oes gwybodaeth yn cael ei dal gan Heddlu Dyfed-Powys oherwydd nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys.
Nid yn benodol gan y byddai’n dibynnu sut yr oedd yn cael ei roi gan yr ymarferydd meddygol a roddodd bresgripsiwn ar ei gyfer. Byddai addasiadau rhesymol yn cael eu hystyried a’u gweithredu ar sail achos wrth achos.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 09/08/2024)