Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 709/2024
Cais:
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech chi’n rhoi gwybod imi beth yw’r rhif digwyddiad ar gyfer y goets a aeth yn sownd ar y tro tynn yn Llanddeusant ddoe, sef 15/07/2024. Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n medru rhoi imi, gan gynnwys enw’r cwmni coetsis.
Ymateb:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Rhif cyfeirnod y digwyddiad: DP-20240715-318
Crynodeb o’r adroddiad ar y digwyddiad:
Derbyniwyd galwad 999 ar 15/07/2024 am 17:08:18 awr
Mae’r cerbyd, sef coets â 52 sedd, wedi mynd yn sownd ar ffordd ddiddosbarth ar ôl gollwng nifer o deithwyr.
Mae’r gyrrwr wedi dilyn system llywio â lloeren mewn ymgais i ddychwelyd i’w depo yn Cheltenham. Fodd bynnag, y mae wedi mynd yn sownd ar ffordd ddiddosbarth.
Ceisiwyd symud y cerbyd, fodd bynnag, profodd hyn yn anodd gan fod angen mynd am yn ôl ar riw.
Mae’r gyrrwr wedi cysylltu â’i ddepo/ystafell reoli yn Cheltenham, a oedd yn trefnu cymorth/adfer drwy eu gwasanaeth torri i lawr/adfer eu hunain.
Yn eu tro, pennodd y cwmni hwnnw gwmni adfer arall, sydd yna wedi penderfynu ers hynny y byddai’n well adfer y cerbyd fory yn ystod oriau dydd oherwydd amser y nos a’r ffaith ei bod hi’n tywyllu.
O’r herwydd, mae’r goets wedi’i gadael ar y ffordd ddiddosbarth, fodd bynnag, gadawyd digon o le i gerbyd fynd heibio.
Diweddarwyd yr adroddiad ar 16/07/24 am 14:07:23 Mae’r goets wedi’i hadfer.
Noder fod data personol trydydd parti a data a allai datgelu unigolyn wedi’i ddileu/heb ei ddarparu yn unol ag eithriad Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth:
Mae Adran 40(2) yn eithriad sy’n seiliedig ar ddosbarth. Golyga hyn fod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, wedi ystyried y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Gan hynny, does dim rhaid cynnal Prawf NIWED mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Nid oes rhaid cynnal Prawf Budd Cyhoeddus chwaith.
Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol:
Mae Adran 40(2) yn berthnasol ar gyfer data personol trydydd parti, ac mae wedi’i eithrio rhag datgelu o dan ddatgeliad Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â thestun data i brosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data o fewn Rhan 3 - Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan Adran 34 o fewn Pennod 2 “Mae’r Rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am Bennod 2, ac yn gorfod dangos cydymffurfiaeth â hi.” Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 heblaw bod diddordeb cyhoeddus cryf. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau'n gyhoeddus, nid yn unig i’r unigolyn sy’n gwneud cais am y wybodaeth, a rhaid cofio hyn wrth ddatgelu o dan y Ddeddf. O’r herwydd, eithrir unrhyw ryddhad sy’n adnabod unigolyn drwy ryddhau ei ddata personol. Mae hyd yn oed data personol trydydd parti wedi’i eithrio.
Diffinnir data personol o dan Adran 3 Deddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) ‘Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw sydd wedi’i adnabod, neu y gellir ei adnabod (yn amodol ar isadran (14)(c)).
(3) ‘Golyga ‘Unigolyn byw y gellir ei adnabod’ unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn arbennig drwy gyfeiriad at —
(a) Ddynodwr megis enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu fwy o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, seicolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u cyflogi gan yr heddlu, hawl cynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu drwy rinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018, a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, ac ni chaiff awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl hwnnw. Mae unrhyw ryddhad gwybodaeth sy’n ddarostyngedig i’r eithriad yn debygol o gyfaddawdu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data cyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data cyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol ar gyfer unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon a theg.”
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Erthygl 5 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu:
“1. Bydd ‘data personol’ yn
(a) Cael ei brosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â’r testun data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder);
(b) Cael ei gasglu ar gyfer dibenion penodol, eglur a chyfreithlon, ac ni ddylid ei brosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny: Ni fydd prosesu pellach ar gyfer dibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolwr yn gyfrifol am, gydymffurfiaeth â pharagraff 1 (‘atebolrwydd’), ac yn medru dangos cydymffurfiaeth â hyn.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys eisiau datgelu unrhyw wybodaeth a allai adnabod unigolion. Yn yr achos penodol hwn, byddai rhyddhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani’n arwain at adnabod unigolyn/unigolion. Byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath yn torri deddfwriaeth Diogelu Data h.y. yr egwyddor diogelu data cyntaf, ac o ganlyniad, rwy’n fodlon bod eithriad Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol yn berthnasol ar gyfer rhyddhau’r wybodaeth.
Mae Adran 40 yn eithriad sy’n seiliedig ar ddosbarth. Golyga hyn fod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, wedi ystyried y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Gan hynny, does dim rhaid cynnal Prawf NIWED mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath.
Mae eithriad Adran 40 yn rhannol gymwys a rhannol absoliwt. Yn yr achos presennol, byddai’n absoliwt oherwydd byddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfwriaeth Diogelu Data, felly does dim angen cynnal prawf budd cyhoeddus.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 07/08/2024)