Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 701/2024
Cais:
Ar gyfer 2022 a 2023 gan eu crynhoi yn ôl band oed 18-25; 26-30; 31-40; 41-50; 51-60; 61+
Os oes unrhyw eitem yn sbarduno chwiliad â llaw, diystyrwch y cwestiwn hwnnw, os yw’n bosibl.
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n: (a) nodi’r ffaith hwnnw, (b) nodi’r eithriad dan sylw ac (c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys.
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth yr ydych yn gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal y cyfan o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod eithriad Adran 12 (2), y Gost o Gydymffurfio yn fwy na'r Terfyn Priodol, yn gymwys iddo.
Adran 12 (1) – Mae’r gost o gydymffurfio’n fwy na’r Terfyn Priodol
Dywed Adran 12(2): “…Nid yw Is-adran (1) yn eithrio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifol cydymffurfio â’r paragraff hwnnw’n fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r hyn y mae’n ofynnol inni roi’n gyfreithiol h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i chasglu’n fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 1335 awr) i gydymffurfio â chwestiynau 2-4 eich cais. Cewch hyd i’r rheoliadau ar: www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Cynghorwyd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth nad yw’r wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais yn cael ei dal ar ffurf sy’n hawdd ei hadalw. Yng ngoleuni hyn, ac er mwyn cael y wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais yn gywir ar gyfer y ffrâm amser a nodwyd, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gael mynediad at bob cofnod dalfa lle nad oedd angen oedolyn priodol, a’u hadolygu â llaw i gael y wybodaeth sy’n berthnasol i gwestiynau 2-4 o’ch cais.
Sefydlwyd bod cyfanswm o 16028 cofnod dalfa sy’n ymwneud â chyfnod eich cais. Sefydlwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf 5 munud i adolygu a chael y wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellir uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
2022: 7768 cofnod x 5 munud = 647 awr
2023: 8260 cofnod x 5 munud = 688 awr
Amcangyfrif o’r amser a gymerir i gwblhau’r dasg = 1335 awr
Gan hynny, yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel Hysbysiad Gwrthod ar gyfer y cais Cyfan o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn berthnasol, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai yr hoffech fireinio’ch cais a’i ailgyflwyno fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod fel ei fod yn syrthio o fewn y 18 awr. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, peidiwch ag oedi i gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Fe’ch cynghorir hefyd nad yw’n dileu hawl yr awdurdodau lleol i ddyfynnu eithriadau os ydynt yn berthnasol os yw’r cais yn cael ei fireinio.
Er bod cost ormodol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth mewn perthynas â chwestiwn 1 eich cais, a oedd yn hawdd ei hadalw, ac fe’i hamlinellir isod. Hyderaf fod hyn o gymorth, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Ymateb cwestiwn 1
|
Oed/Blwyddyn |
2022 |
2023 |
|
18-25 |
1743 |
2132 |
|
26-30 |
1189 |
1518 |
|
31-40 |
2294 |
3275 |
|
41-50 |
1363 |
1826 |
|
51-60 |
773 |
1050 |
|
61+ |
369 |
606 |
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 07/08/2024)