Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 628/2024
Cais:
Yr wyf wedi cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth o’r blaen (cyf: 561.2024) ond nid oedd y data a oedd ar gael ar-lein yn ddigon i ateb fy ymholiad.
A gaf i ofyn am droseddau lefel stryd, canlyniadau a gwybodaeth stopio a chwilio, wedi’u crynhoi yn ôl ardal gynnyrch ehangach haen is os gwelwch chi’n dda. Yr ardal gynnyrch ehangach haen is mae gennyf ddiddordeb ynddi yw W01000474 (Tŷ Rhos Bach, Heol Senni a’r ardaloedd cyfagos).
Rwy’n medru cael mynediad i’r data ar ôl 2021 gan ddefnyddio data.police.uk, ond nid oes modd imi ddod o hyd i’r un data ar gyfer y cyfnod cyn 2021.
A gaf i ofyn am y data hwn ar gyfer y blynyddoedd 2017, 2018, 2019 a 2020 os gwelwch chi’n dda?
Ceisiwyd eglurhad ar 24/06/24
Derbyniwyd eglurhad ar 24/06/24
1) Y prif god post eiddo rwyf angen y wybodaeth ar ei gyfer yw LD3 8SU (Tŷ Rhos Bach, Heol Senni), ond byddai’n fuddiol cael gwybodaeth am yr ardal gyfagos hefyd. A gaf i’r wybodaeth ar gyfer y codau post LD3 8S_ os gwelwch chi’n dda?
2) A gaf i’r wybodaeth ar gyfer digwyddiadau a throseddau os gwelwch chi’n dda?
Ymateb
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani; fodd bynnag, yr ydym yn eithrio rhan o’r wybodaeth honno gan ein bod ni’n credu bod yr eithriadau canlynol yn berthnasol:
Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol
Mae Adran 40(2) yn eithriad absoliwt sy’n seiliedig ar ddosbarth a does dim gofyniad i ystyried budd y cyhoedd wrth ddatgelu. Wedi dweud hynny, lle y defnyddir Adran 40(2) er mwyn gwneud yr eithriad yn absoliwt, mae angen tystiolaeth y byddai egwyddor diogelu data’n cael ei thorri drwy ddatgelu. Yn yr achos hwn, ni fyddai’n deg prosesu gwybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn. Gan hynny, byddai egwyddor gyntaf y Ddeddf Diogelu Data’n cael ei thorri.
Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol:
Mae Adran 40(2) yn berthnasol ar gyfer data personol trydydd parti, ac mae wedi’i eithrio rhag datgelu o dan ddatgeliad Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â thestun data i brosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data o fewn Rhan 3 - Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. . O dan Adran 34 o fewn Pennod 2 “Mae’r Rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am Bennod 2, ac yn gorfod dangos cydymffurfiaeth â hi.” Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 heblaw bod diddordeb cyhoeddus cryf. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau'n gyhoeddus, nid yn unig i’r unigolyn sy’n gwneud cais am y wybodaeth, a rhaid cofio hyn wrth ddatgelu o dan y Ddeddf. O’r herwydd, eithrir unrhyw ryddhad sy’n adnabod unigolyn drwy ryddhau ei ddata personol. Mae hyd yn oed data personol trydydd parti wedi’i eithrio.
Diffinnir data personol o dan Adran 3 Deddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) ‘Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw sydd wedi’i adnabod, neu y gellir ei adnabod (yn amodol ar isadran (14)(c)).
(3) ‘Golyga ‘Unigolyn byw y gellir ei adnabod’ unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn arbennig drwy gyfeiriad at —
(a) Ddynodwr megis enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu fwy o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, seicolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u cyflogi gan yr heddlu, hawl cynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu drwy rinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018, a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, ac ni chaiff awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl hwnnw. Mae unrhyw ryddhad gwybodaeth sy’n ddarostyngedig i’r eithriad yn debygol o gyfaddawdu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data cyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data cyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol ar gyfer unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon a theg.”
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Erthygl 5 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu:
“1. Bydd ‘data personol’ yn
(a) Cael ei brosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â’r testun data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder);
(b) Cael ei gasglu ar gyfer dibenion penodol, eglur a chyfreithlon, ac ni ddylid ei brosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny: Ni fydd prosesu pellach ar gyfer dibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolwr yn gyfrifol am, gydymffurfiaeth â pharagraff 1 (‘atebolrwydd’), ac yn medru dangos cydymffurfiaeth â hyn.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys eisiau datgelu unrhyw wybodaeth a allai adnabod unigolion. Yn yr achos penodol hwn, gallai rhyddhau manylion am droseddau a digwyddiadau a gofnodwyd mewn perthynas â chod post penodol, sef LD3 8SU, ac eiddo cyfagos â’r cod post LD3 8S_, arwain at adnabod unigolion cysylltiedig. Byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath yn torri deddfwriaeth Diogelu Data, ac o ganlyniad, rwy’n fodlon bod eithriad Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol yn berthnasol ar gyfer rhyddhau’r wybodaeth.
Mae Adran 40 yn eithriad sy’n seiliedig ar ddosbarth. Golyga hyn fod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, wedi ystyried y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Gan hynny, does dim rhaid cynnal Prawf NIWED mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath.
Mae eithriad Adran 40 yn rhannol gymwys a rhannol absoliwt. Yn yr achos presennol, byddai’n absoliwt oherwydd byddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfwriaeth Diogelu Data, felly does dim angen cynnal prawf budd cyhoeddus.
Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd rhwng 2017 a 2020 yn Nhŷ Rhos Bach a Heol Senni yw’r wybodaeth isod:-
Tŷ Rhos Bach:
2017 – 14 digwyddiad
2018 – 9 digwyddiad
2019 – 14 digwyddiad
2020 – 8 digwyddiad
Heol Senni:
2017 – 10 digwyddiad
2018 – 3 digwyddiad
2019 – 5 digwyddiad
2020 – 6 digwyddiad
Gweler ynghlwm yr hyperddolenni isod a allai fod o gymorth hefyd.
Cewch hyd i ystadegau stopio a chwilio drwy’r ddolen hon: Heddlu Dyfed-Powys | Police.uk (www.police.uk)
Cewch chwilio am ystadegau trosedd ac ystadegau stopio a chwilio yn ôl cod post drwy’r ddolen hon: Maes-car a Llywel | Police.uk (www.police.uk)
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 12/08/2024)