Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 776/2024
Cais:
Peidiwch ag enwi’r unigolyn, ac os yw’r cyflogwr yn debygol o adnabod yr unigolyn, defnyddiwch derm generig – er enghraifft, cwmni cyfryngau neu gwmni adeiladu.
Er enghraifft:
2020 – Cwmni cyfryngau – Honiad o droseddau rhywiol
2022 – Cwmni adeiladu – Honiad o ladrad
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n:
(a) nodi’r ffaith hwnnw,
(b) nodi’r eithriad dan sylw ac
(c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys.
Medraf gadarnhau bod y gost o bennu pa un ai a oes unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei dal ai peidio uwchlaw’r hyn y mae’n ofynnol inni ddarparu yn ôl y gyfraith, felly rydym yn atal y cyfan o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod eithriad Adran 12 (2), y Gost o Gydymffurfio yn fwy na'r Terfyn Priodol, yn gymwys iddo.
Adran 12 (1) – Mae’r gost o gydymffurfio’n fwy na’r Terfyn Priodol
Dywed Adran 12(2): “…Nid yw Is-adran (1) yn eithrio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifol cydymffurfio â’r paragraff hwnnw’n fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o bennu pa wybodaeth sy’n cael ei dal, os o gwbl, mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r hyn y mae’n ofynnol inni roi’n gyfreithiol h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i chasglu’n fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 60 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Cewch hyd i’r rheoliadau ar: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Cynghorwyd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth nad yw’r wybodaeth mewn perthynas ag ail gwestiwn eich cais ar gael ar ffurf sy’n hawdd i’w hadalw. Er mwyn darparu data manylach, byddai angen craffu ar bob cofnod.
Sefydlwyd bod cyfanswm o 359 cofnod y byddai angen eu holi’n unigol ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd 10 munud i ymchwilio i bob cofnod unigol. Nodir yr amcangyfrif o ran amser isod: Does dim data’n cael ei ddal ar gyfer y flwyddyn galendr 2020.
2021: 135 cofnod x 10 munud fesul cofnod = 22.5 awr
2022: 157 cofnod x 10 munud fesul cofnod = 26 awr
2023: 64 cofnod x 10 munud fesul cofnod = 10.6 awr
2024: 3 cofnod x 10 munud fesul cofnod = 0.5 awr
Amcangyfrif o’r cyfanswm amser ar gyfer cwblhau’r cais cyfan = 60 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r CYFAN o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr.
Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr Heddlu i ddyfynnu eithriadau os ydynt yn berthnasol,
Er bod cost ormodol wedi dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth mewn perthynas â’ch cais, a gafodd ei hadalw neu a oedd ar gael cyn y sylweddolwyd yr eir y tu hwnt i’r terfyn ffioedd. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl cyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Ymatebion Ewyllys Da 1:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Blwyddyn |
Datgeliad Heddlu Cyfraith Gyffredin |
Galwedigaeth Hysbysadwy |
|
2020 |
Dim Data Ar Gael |
Dim Data Ar Gael |
|
2021 |
0 |
135 |
|
2022 |
0 |
157 |
|
2023 |
0 |
64 |
|
2024 |
2 |
1 |
Noder: Er bod yr Adran Ddatgelu’n dal gwybodaeth am geisiadau sydd wedi’u cyfeirio at yr Adran Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth, gall Datgeliadau Heddlu Cyfraith Gyffredin eraill fod wedi’u cynnal gan Swyddogion a allai fod wedi’u cofnodi ar y system droseddau neu systemau eraill neu drwy gyflwyno Ffurflenni Cyfeirio Amlasiantaeth neu Ffurflen Adrodd Diogelu Oedolyn Canolbarth a Gorllewin Cymru, a’u trafod mewn Cyfarfodydd Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaeth.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 19/08/2024)