Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 678/2024
Cais:
Rwy’n ysgrifennu i ofyn am y wybodaeth ganlynol mewn perthynas â digwyddiadau casineb nad ydynt yn droseddau. Yn benodol:
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n: (a) nodi’r ffaith hwnnw, (b) nodi’r eithriad dan sylw ac (c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys.
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal y cyfan o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod eithriad Adran 12 (2), y Gost o Gydymffurfio yn fwy na'r Terfyn Priodol, yn gymwys iddo.
Adran 12 (1) – Mae’r gost o gydymffurfio’n fwy na’r Terfyn Priodol
Dywed Adran 12(2): “…Nid yw Is-adran (1) yn eithrio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifol cydymffurfio â’r paragraff hwnnw’n fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o roi ichi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r hyn y mae’n ofynnol inni roi’n gyfreithiol h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i chasglu’n fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 21.66 awr) i gydymffurfio â’r rhan hwn o’ch cais. Cewch hyd i’r rheoliadau ar: www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Cynghorwyd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth nad yw’r wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais yn cael ei dal ar ffurf sy’n hawdd ei hadalw. Yng ngoleuni hyn, ac er mwyn cael y wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais yn gywir ar gyfer y ffrâm amser a nodwyd, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys cael mynediad at ddigwyddiadau sydd â thag casineb, ond sydd heb rif digwyddiad yn gysylltiedig â nhw, a’u hadolygu â llaw i bennu pa un ai a ydynt yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau casineb nad ydynt yn droseddau ai peidio.
Sefydlwyd bod cyfanswm o 570 cofnod sy’n cynnwys cyfnod eich cais. Byddai angen adolygu 130 ohonynt i nodi pa un ai a ydynt yn berthnasol i’ch cais ai peidio. Sefydlwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i adolygu a chael y wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellir uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
03/06/2020-02/06/2021 = (235 cofnod) 27 cofnod
03/06/2021-02/06/2022 = (153 cofnod) 21 cofnod
03/06/2022-02/06/2023 = (117 cofnod) 17 cofnod
03/06/2023-02/06/2024 = 65 cofnod
130 cofnod x 10 munud = 21.66 awr
Amcangyfrif o’r amser a gymerir i gwblhau’r dasg = 21.66 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel Hysbysiad Gwrthod ar gyfer y cais cyfan o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn berthnasol, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai yr hoffech fireinio’ch cais a’i ailgyflwyno fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod fel ei fod yn syrthio o fewn y 18 awr. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, peidiwch ag oedi i gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Fe’ch cynghorir hefyd nad yw’n dileu hawl yr awdurdodau lleol i ddyfynnu eithriadau os ydynt yn berthnasol os yw’r cais yn cael ei fireinio.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 05/08/2024)