Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 181/2024
Cais:
Os ydyw,
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydy
Ymatebion 2 a 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae pob Ditectif yn Heddlu Dyfed-Powys sydd ar y rhaglen Ymchwilwyr PIP 2 yn mynychu’r cwrs Ymchwilwyr PIP 2, sy’n ymdrin â Cham-drin Domestig.
Sesiwn 3 awr ydyw; mae’n cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb i grwpiau o 8-12 myfyriwr; nid yw’r sesiwn yn cael ei asesu. Cyn mynychu’r hyfforddiant PIP 2, byddai swyddogion wedi derbyn hyfforddiant perthnasol mewn cam-drin domestig ar lefel PIP 1, gan gynnwys hyfforddiant rhanbarthol, sy’n cynnwys cyflwyniadau gan asiantaethau allanol.
Gweler isod y deilliannau dysgu o’r cwrs Hyfforddiant Ymchwilwyr PIP 2:
Yn ystod y sesiwn, tynnir sylw at y ffaith y gall dioddefwyr fod yn wrywod neu’n fenywod.
Gweler ynghlwm y deunydd hyfforddi canlynol:
Mae peth deunydd wedi’i olygu gan ei fod wedi’i eithrio o dan Adran 31(1)(a)(b) – Gorfodi’r Gyfraith. Gweler gwaelod y ddogfen hon am esboniad.
Mae’r dogfennau a restrir isod wedi’u heithrio o dan Adran 31(1)(a)(b) – Gorfodi’r Gyfraith yn eu cyfanrwydd. Mae’r esboniad ar waelod y ddogfen hon yn amlinellu’r eithriad.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydy
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Pythefnos yn benodol ar gyfer cam-drin domestig ar bob cwrs Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona.
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae swyddogion yn cymryd rhan mewn Hyfforddiant Ymatebwyr Cyntaf Mae Cam-drin Domestig yn Bwysig. Hefyd, mae’n orfodol i swyddogion a staff sy’n ymchwilwyr wylio pecyn ar-lein 2 awr anffurfiol, sef recordiad o ddigwyddiad GEG sy’n trafod pynciau megis cam-drin domestig, ymchwiliadau a arweinir gan dystiolaeth a mesurau arbennig.
Ymateb 7:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Wyneb yn wyneb.
Ymateb 8:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Grwpiau o tua 40.
Ymateb 9:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydy, ydy, oes – perfformiad cynllun datblygu cefnogol. 0 methiant.
Ymatebion 10 ac 11:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Hyfforddwyr mewnol cymwys – Ymchwilwyr cam-drin domestig profiadol.
Ymateb 12:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Gorfodol.
Ymateb 13:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Pob myfyriwr Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona.
Ymateb 14:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae’r cynnwys ar gyfer Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona wedi’i gyflwyno ers 2019. Mae’r cwricwlwm yn cael ei ddiweddaru yn unol â’r Coleg Plismona.
Ymateb 15:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Ddim yn benodol.
Ymateb 16:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
Amh.
Ymateb 17:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani, fel yr amlinellir isod.
|
|
Dyddiadau |
Nifer yr aelodau staff a gafodd eu hyfforddi |
|
Mae Cam-drin Domestig yn Bwysig (Diwrnodau Hyfforddi URS) |
23/04/19 – 16/07/19 |
887 |
|
Hyrwyddwyr Cam-drin Domestig |
04/09/19 – 06/09/19 |
41 |
|
Hyfforddi’r Hyfforddwr Mae Cam-drin Domestig yn Bwysig |
19/09/23 – 21//09/23 |
9 |
|
Ymatebwr Cyntaf Mae Cam-drin Domestig yn Bwysig |
08/11/23 – 14/12/23 |
148 |
|
Ymatebwr Cyntaf Mae Cam-drin Domestig yn Bwysig |
03/01/24 – 13/03/24 |
182 |
Ymatebion 18 a 19:
Amh.
Esboniad o’r eithriad a weithredwyd ar gyfer Cwestiwn 3
Mae eithriad Adran 31(1)(a)(b) Gorfodi’r Gyfraith wedi’i weithredu i ran o’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan eithrio ei rhyddhau.
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’n ofynnol inni roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n:
a) nodi’r ffaith hwnnw,
b) nodi’r eithriad(au) dan sylw ac
c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys.
Adran 31(1)(a)(b) Gorfodi’r Gyfraith:
(1) Mae gwybodaeth sydd heb ei heithrio yn rhinwedd adran 30 yn wybodaeth eithriedig pe bai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn rhagfarnu, neu’n debygol o ragfarnu -
(a) atal neu ddatrys trosedd
(b) dal neu erlyn troseddwyr
Mae Adran 31 yn eithriad cymwys ar sail rhagfarn, ac o’r herwydd, mae angen darparu manylion am y niwed yn ogystal â’r prawf budd cyhoeddus.
Niwed Mewn Datgelu
Nid yw’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ystyried ymgeiswyr. Golyga hyn na allwn holi am gymhellion unrhyw un sy’n gofyn am wybodaeth, ac nid ydym yn gwneud. Drwy roi ymateb i un unigolyn, yr ydym yn mynegi parodrwydd i roi’r un ymateb i unrhyw un, gan gynnwys y rhai a allai gyflwyno bygythiad i’r DU.
Lle mae’n debygol y bydd datgelu’n cyfaddawdu prif swyddogaethau Heddlu Dyfed-Powys, sef atal a datrys troseddau yn ogystal ag erlyn troseddwyr, mae angen gwarchod gwybodaeth.
Mae gan ryddhau deunydd hyfforddi’r potensial i fod yn niweidiol gan y byddai’n rhoi mewnwelediad i’r ffordd y mae’r Heddlu’n ymateb i adroddiadau am grogi nad yw’n angheuol a digwyddiadau mogi nad ydynt yn angheuol. Mae posibilrwydd y bydd datgelu’n creu darlun ehangach, drwy roi manylion penodol am yr hyfforddiant a roddir i swyddog, a allai roi cudd-wybodaeth gadarnhaol i’r frawdoliaeth droseddol.
Gall datgelu gwybodaeth sy’n debygol o danseilio gallu’r gwasanaeth heddlu i wasanaethu’r cyhoedd drwy ddarparu’r prif swyddogaethau a nodwyd ond gael ei ystyried yn niweidiol i’r cyhoedd.
Prawf Budd Cyhoeddus
Ystyriaethau sy’n ffafrio datgelu:
Byddai datgelu’n caniatáu ar gyfer gwell ymwybyddiaeth gyhoeddus a didwylledd o ran adnoddau hyfforddi Heddlu Dyfed-Powys. O ganlyniad, byddai’r cyhoedd yn fwy gwybodus ynglŷn â ble mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yn y maes plismona hwn ac yn cael gwell gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i atal a datrys troseddau. Yn ei hun, gall hynny arwain at leihau troseddau a rhoi mwy o hyder i’r cyhoedd adrodd am ddigwyddiadau trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ystyriaethau sy’n ffafrio peidio â datgelu:
Byddai datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani’n cael effaith andwyol ar blismona gweithredol. Byddai datgelu deunydd hyfforddi’n rhoi mantais weithredol sylweddol i unigolion neu grwpiau o fewn y frawdoliaeth droseddol oherwydd gellid defnyddio’r wybodaeth â golwg ar aflonyddu ar hyfforddiant neu ddatblygu tactegau a allai dynnu sylw oddi wrthynt. Byddai hyn yn amlwg yn peryglu gallu Heddlu Dyfed-Powys i ymateb yn briodol i weithgarwch troseddol, a thrwy hynny, amddiffyn y cyhoedd.
Gellid defnyddio’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i gyfaddawdu galluoedd gorfodi’r gyfraith drwy leihau gallu’r heddlu i ymladd trosedd, a fyddai’n cynyddu comisiwn trosedd, ac o ganlyniad, yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd yn ogystal â lleihau hyder y cyhoedd yn yr heddlu.
Prawf Cydbwyso
Ar ôl pwyso a mesur y buddiannau cystadleuol, yr wyf wedi penderfynu na fyddai datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fudd i’r cyhoedd. Ystyriaf nad yw’r budd a fyddai’n deillio o ddatgelu’r wybodaeth yn fwy na’r ystyriaethau sy’n ffafrio peidio â datgelu.
Yn fy nhyb i, y rhesymau cryfaf dros ffafrio datgelu yw darparu gwell ymwybyddiaeth gyhoeddus a didwylledd o ran y ffordd y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, a pha un ai a oes digon o adnoddau gan Heddlu Dyfed-Powys i wario ar hyfforddiant.
Yn amlwg, ni all rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n debygol o gynorthwyo’r rhwydwaith troseddol ac effeithio ar ein galluoedd gweithrediadol a thactegol fod o fudd i’r cyhoedd, ac er ein bod ni eisiau cofleidio’r ethos o ddatgelu gwybodaeth, ni all hyn gymryd blaenoriaeth dros ddiogelwch y cyhoedd.
Mae peth o gynnwys y cwrs yn eiddo i’r Coleg Plismona. Mae tîm cyfreithiol y Coleg Plismona wedi’n cynghori i roi’r dogfennau amcanion cwrs ichi: Cyflwyniad PowerPoint Hyrwyddwyr Mae Cam-drin Domestig yn Bwysig fersiwn 1.1 a chyflwyniad PowerPoint Ymatebwyr Cyntaf Mae Cam-drin Domestig yn Bwysig fersiwn 3.1, ac os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, dylech gysylltu â’u tîm Rhyddid Gwybodaeth drwy anfon e-bost at: [email protected] neu drwy ysgrifennu at: Y Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Y Coleg Plismona, Leamington Road, Ryton-on-Dunsmore, Cwfaint, CV8 3EN.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 07/08/2024)