Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 318/2024
Cais:
Hoffwn wybod nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd a nifer yr erlyniadau a wnaed yn ymwneud â phlatiau rhif a gamliwiwyd yn y blynyddoedd 2020, 2021, 2022 a 2023 o fewn awdurdodaeth Heddlu Dyfed–Powys.
Gofynnwyd am eglurhad ar 19 Mawrth 2024
A ydych chi’n dymuno gwybod nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd cynnig amodol iddynt sy'n cyfateb i ddirwy?
Nodwn eich bod wedi gofyn am ddata ynghylch erlyniadau. A ydych chi’n dymuno gwybod nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd cynnig amodol iddynt, nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac a gafwyd yn euog yn y llys, neu'r ddau?
Gofynnwyd am eglurhad ar 19 Mawrth 2024
Hoffwn wybod nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd cynnig amodol iddynt sy'n cyfateb i ddirwy, a nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac a gafwyd yn euog yn y llys.
Ymateb
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod yr wybodaeth ganlynol yn cael ei chadw:
Ffigurau ar gyfer nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd cynnig amodol iddynt
2020 – 184
2021 – 199
2022 – 140
Hyd at Fai 2023 – 22
Ffigurau ar gyfer nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac a gafwyd yn euog yn y llys
2020 – 38
2021 – 40
2022 – 36
Hyd at Fai 2023 – 16
Mae ymholiadau hefyd wedi'u gwneud gyda'r adran traffig i weld a oes ganddynt unrhyw wybodaeth bellach. Fe'n cynghorir y byddai'n mynd y tu hwnt i'r terfyn priodol i benderfynu a oes unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei chadw. Gweler isod yr hysbysiad gwrthod perthnasol.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2), mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed–Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 184.25 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yma: www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn, ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais o fewn yr amserlen a nodwyd yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed–Powys gyrchu 2,211 o gofnodion, a’u hadolygu, ar gyfer y data a gedwir rhwng 1 Mai 2023 a 31 Rhagfyr 2023.
Canfuwyd bod cyfanswm o 2,211 o ffeiliau sy’n cwmpasu cyfnod eich cais, ac y byddai’n cymryd o leiaf pum munud i adolygu pob adroddiad trosedd traffig i weld a gafodd yr unigolyn gynnig amodol neu a gafwyd yn euog yn y llys am y drosedd a nodwyd.
Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
2,211 ffeil x 5 munud = 184.25 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 184.25 awr
Felly, yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae'r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i'r cyfan o'r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel bod yr amser a ddangosir uchod yn llai na 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn gymwys.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Awst 2024)