Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 773/2024
Cais:
1. Ar gyfer y blynyddoedd ariannol a) 2021/22, b) 2022/23, a c) 2023/24, dywedwch wrthyf sawl gwaith mae eich heddlu wedi rhoi iawndal neu daliadau ex gratia i unigolion sydd a gafodd eu heiddo wedi’i ddifrodi oherwydd mynediad drwy rym a oedd yn anghyfreithlon (naill ai am fod y cyfeiriad anghywir wedi’i ysbeilio neu oherwydd nad oedd gwarant wedi’i sicrhau).
2. Ar gyfer y blynyddoedd ariannol a) 2021/22, b) 2022/23, a c) 2023/24, dywedwch wrthyf gyfanswm yr iawndal a thaliadau ex gratia a dalwyd i unigolion yn dilyn mynediad anghyfreithlon drwy rym. Rhowch grynodeb o’r swm sy’n cyfateb i daliadau iawndal a’r swm sydd i’w briodoli i gostau cyfreithiol.
3. Nodwch y PUM swm mwyaf a setlwyd yn ystod y cyfnod tair blynedd hwn, gan ddweud faint oedd yn cyfateb i gostau cyfreithiol a faint oedd yn cyfateb i iawndal ym mhob achos a’r flwyddyn ariannol y cafodd ei setlo. Yn ogystal, rhowch grynodeb byr o’r amgylchiadau a arweiniodd at yr iawndal ym mhob un o’r tri achos heb ddatgelu manylion personol, e.e., “torrodd swyddogion ddrws 25a i lawr pan oedd y warant ar gyfer 25b”.
NODER: Ym mhob achos, rwy’n cyfeirio at y flwyddyn y cafodd yr hawliad ei setlo, nid y flwyddyn ddigwyddodd y digwyddiad na’r flwyddyn y cyflwynwyd yr hawliad.
--------------------------------------------------
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Medraf gadarnhau bod y wybodaeth ganlynol yn cael ei dal:
Ymateb i Gwestiwn 1
BA 2021 – 2022 = Dim
BA 2022 – 2023 = Dau
BA 2023 – 2024 = Un
Ymateb i Gwestiwn 2
BA 2021 – 2022 = £0.00
BA 2022 – 2023 = £1,040.30 Taliadau am ddifrod yn unig. Dim costau cyfreithiol.
BA 2023 – 2024 = £3,515.04
£1,200.00 – Difrod
£2,315.04 – Costau cyfreithiol
Ymateb i Gwestiwn 3
BA 2022 – 2023
£116.00 – Difrod – Cyfeiriad anghywir
£924.30 – Difrod – Cyfeiriad anghywir
BA 2023 – 2024
£1,200.00 Difrod – Cyfeiriad anghywir
£2,315.04 Costau cyfreithiol.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 20/08/2024)