Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 578/2024
Cais:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Plismona rhagfynegol – Nac ydyw
Dadansoddeg fideo gyda chymorth deallusrwydd artiffisial – Nac ydyw
Technoleg adnabod wynebau – Nac ydyw
Ymateb 2:
Amherthnasol
Ymateb: 3
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Na ddefnyddir.
Yn ogystal â’r ymatebion uchod, ni all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau na gwadu ei fod yn cadw unrhyw wybodaeth mewn perthynas â’r arfer cudd o adnabod wynebau gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gymwys yn rhinwedd yr esemptiadau canlynol:
Adran 24(2) Diogelwch gwladol
Adran 31(3) Gorfodi’r gyfraith
Gan fod Adrannau 24 a 31 yn esemptiadau amodol ar sail niwed, mae gofyniad i fynegi’r niwed a fyddai’n cael ei achosi wrth gadarnhau a yw gwybodaeth yn cael ei chadw ai peidio yn ogystal â chynnal prawf budd y cyhoedd.
Tystiolaeth o niwed
Mae unrhyw ddatgeliad o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn ddatganiad i'r cyhoedd yn gyffredinol. Er nad yw’n cwestiynu cymhellion y ceisydd, byddai cadarnhau neu wadu bod unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r arfer cudd o adnabod wynebau yn cael ei chadw yn dangos i droseddwyr beth yw capasiti, galluoedd tactegol a galluoedd yr heddlu, gan ganiatáu iddynt dargedu ardaloedd penodol o’r DU i gynnal eu gweithgareddau troseddol/terfysgol. Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw ynghylch yr amgylchiadau penodol lle gallai gwasanaeth yr heddlu ddefnyddio technoleg adnabod wynebau neu beidio yn arwain at gynnydd mewn niwed i weithrediadau cudd ac yn peryglu gorfodi'r gyfraith. Byddai hyn ar draul darparu gwasanaeth plismona effeithlon a methiant i ddarparu dyletswydd gofal i bob aelod o’r cyhoedd.
Ni ellir anwybyddu bygythiad terfysgaeth. Cydnabyddir yn gyffredinol bod y dirwedd
diogelwch rhyngwladol yn gynyddol gymhleth ac anrhagweladwy. Ers 2006, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi lefel y bygythiad yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol, ac mae’r bygythiad hwnnw ar hyn o bryd yn cael ei gategoreiddio fel ‘sylweddol’. Gweler y ddolen isod:
https://www.mi5.gov.uk/threat-levels
Mae’r DU yn parhau i wynebu bygythiad parhaus gan eithafwyr treisgar a therfysgwyr. Mae wedi’i hen sefydlu bod heddluoedd yn defnyddio tactegau cudd a gwyliadwriaeth i gael cudd-wybodaeth er mwyn gwrthweithio ymddygiad troseddol. Mae wedi cael ei ddogfennu’n flaenorol yn y cyfryngau bod llawer o ddigwyddiadau terfysgol wedi'u rhwystro oherwydd cudd-wybodaeth a gafwyd drwy'r dulliau hyn.
Prawf budd y cyhoedd
Ffactorau o blaid cadarnhau neu wadu –
Byddai cadarnhau neu wadu bod unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei chadw yn caniatáu i'r cyhoedd weld lle mae arian cyhoeddus wedi'i wario ac yn caniatáu i wasanaeth yr heddlu ymddangos yn fwy agored a thryloyw. Byddai datgelu gwybodaeth, pe bai'n cael ei chadw, yn dangos bod yr heddlu yn adolygu pob posibiliad i sicrhau ei fod yn parhau â'i frwydr gadarn yn erbyn pob math o weithgarwch troseddol.
Ffactorau yn erbyn cadarnhau neu wadu -
Byddai cadarnhau neu wadu a oes unrhyw wybodaeth arall yn cael ei chadw neu beidio yn ymwneud â defnyddio technoleg adnabod wynebau mewn modd cudd yn cyfyngu ar alluoedd gweithredol gan y byddai troseddwyr/terfysgwyr yn dod i ddeall mwy am ddulliau a thechnegau’r heddlu, gan alluogi troseddwyr i gymryd camau i’w gwrthwynebu.Gall hefyd awgrymu cyfyngiadau ar alluoedd yr heddlu yn y maes hwn, a allai annog gweithgarwch troseddol/terfysgol ymhellach drwy amlygu gwendidau posibl. Cynyddir yr effaith andwyol hon os gwneir y cais i nifer o wahanol gyrff gorfodi’r gyfraith. Yn ogystal â’r ffaith bod y frawdoliaeth droseddol leol bellach yn fwy gwybodus, bydd y rhai sy’n benderfynol o weld troseddu trefnedig ledled y DU yn gallu ‘mapio’ lle mae rhai tactegau’n cael eu defnyddio neu lle nad ydynt yn cael eu defnyddio. Gall hyn fod yn wybodaeth ddefnyddiol i’r rhai sy’n cyflawni troseddau. Byddai’n debygol o nodi gweithrediadau penodol i leoliad a fyddai yn y pen draw yn peryglu tactegau a gweithrediadau’r heddlu ac erlyniadau yn y dyfodol gan y gallai troseddwyr wrthweithio’r mesurau a ddefnyddir yn eu herbyn.
Prawf cydbwysedd
Gellid defnyddio unrhyw wybodaeth sy’n nodi ffocws gweithgarwch plismona er budd
terfysgwyr neu sefydliadau troseddol. Bydd gwybodaeth sy’n tanseilio uniondeb gweithredol y gweithgareddau hyn yn effeithio’n andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd ac yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch cenedlaethol a gorfodi’r gyfraith.
Felly, nid yw’r prawf cydbwysedd yn cyfiawnhau cadarnhau neu wadu a oes unrhyw
wybodaeth bellach yn cael ei chadw ar gyfer y materion hyn.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 1 Awst 2024)