Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 666/2024
Cais:
Os gwelwch chi’n dda, a allech chi roi’r niferoedd inni mewn perthynas â’r wybodaeth ganlynol, ar gyfer y cyfnod 31 Ionawr 2023 i 30 Ionawr 2024, mewn perthynas â Datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat â’r bwriad o achosi trallod o dan Adran 33 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd (2015) lle mae’r dioddefydd yn 18 oed neu hŷn:
Ymateb nad yw’n ymateb Rhyddid Gwybodaeth
Gweler yr ymatebion atodedig mewn perthynas â chais tebyg blaenorol, sef Cais rhyddid gwybodaeth 605.2024.
Fe welwch fod ymateb amcangyfrif amser wedi’i ddarparu. Er bod eich cais yn gofyn am wybodaeth ar gyfer cyfnod amser gwahanol, byddai’r un fethodoleg yn berthnasol, felly ymateb amcangyfrif amser fyddai’r canlyniad hefyd.
Cais pellach
A oes gennych unrhyw argymhellion o ran sut y gallem fireinio ein cais i fod o fewn y terfyn priodol?
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Medraf gadarnhau bod y gost o bennu pa un ai a oes unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r cais hwn yn cael ei dal ai peidio’n uwch na’r hyn y mae’n ofynnol yn gyfreithiol inni ymateb iddo. Gan hynny, rydym yn atal y cyfan o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod eithriad Adran 12 (2), y Gost o Gydymffurfio yn fwy na'r Terfyn Priodol, yn gymwys iddo.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n: (a) nodi’r ffaith hwnnw, (b) nodi’r eithriad dan sylw ac (c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys. Gweithredwyd yr eithriad canlynol i’r cyfan o’r wybodaeth y gofynnoch amdani:
Adran 12(2) – Mae’r gost o gydymffurfio’n fwy na’r Terfyn Priodol
Dywed Adran 12(2): “…Nid yw Is-adran (1) yn eithrio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifol cydymffurfio â’r paragraff hwnnw’n fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o roi ichi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r hyn y mae’n ofynnol inni roi’n gyfreithiol h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i chasglu’n fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 199 awr) i gydymffurfio â’r rhan hwn o’ch cais. Cewch hyd i’r rheoliadau ar: www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Cynghorwyd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth nad yw’r wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais yn cael ei dal ar ffurf sy’n hawdd ei hadalw. Gan hynny, er mwyn sefydlu pa wybodaeth, os o gwbl, sy’n cael ei dal mewn perthynas â’r cais, byddai angen holi pob cofnod o dan y categorïau cyfathrebu maleisus a throseddau rhyw amrywiol eraill o fewn y ffrâm amser a nodwyd yn unigol er mwyn nodi pa un ai a oedd y digwyddiad dan sylw’n ymwneud â’r math hwn o drosedd ai peidio. Ar gyfer y cyfnod a nodir o fewn y cais, sefydlwyd bod cyfanswm o 1196 cofnod y byddai angen eu hymchwilio. Sefydlwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i adolygu a chael y wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â’ch cais fel yr amlinellir uchod, gan arwain at yr amcangyfrif canlynol o ran amser.
1196 cofnod x 10 munud = 199 awr
Cyfanswm o 199 awr i gwblhau’r dasg
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel Hysbysiad Gwrthod ar gyfer y cais CYFAN o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn berthnasol, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Cyngor a chymorth adran 16
Efallai yr hoffech fireinio’ch cais a’i ailgyflwyno gan fod yr adran berthnasol wedi’n cynghori am y canlynol:
Gallai’r ymgeisydd aralleirio’r cwestiwn i ofyn am nifer a chanlyniadau un o’r troseddau penodol canlynol, neu bob un ohonynt, o 13/05/2023 hyd yn hyn (05/08/2024) a fyddai’n dod o dan y 18 awr.
088/15A – Rhannu ffotograff neu ffilm i achosi gofid, braw neu gywilydd, neu ar gyfer boddhad rhywiol
088/15B – Bygwth rhannu ffilm neu ffotograff personol
178/05 – Rhannu ffotograff neu ffilm o unigolyn mewn cyflwr personol heb ganiatâd
Noder: Os yw’r ceisydd dal eisiau’r drosedd benodol ar ôl 13/05/2023, byddai angen inni gynnal adolygiad â llaw o’r holl droseddau o dan y tri chod a allai fod yn fwy na 18 awr o waith, gan ddibynnu ar y nifer yn ystod y cyfnod amser y gofynnwyd amdano. Mae hyn oherwydd y gellir cofnodi’r trosedd y gofynnwyd amdano, sef ‘Datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat â’r bwriad o achosi aflonyddu’, o dan bob un o’r tri chod.
Byddai gofyn am unrhyw ddata sy’n ymwneud â’r troseddau hyn, ar gyfer unrhyw gyfnod cyn 13/05/2024, yn cynnwys treillio’r holl droseddau â’r cod trosedd MALCOMMS â llaw, a fyddai’n fwy na 18 awr o waith gan fod y niferoedd rhy uchel.
Fe’ch cynghorir hefyd nad yw’n dileu hawl yr Heddlu i ddyfynnu eithriadau os ydynt yn berthnasol os bydd y cais yn cael ei fireinio.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 07/08/2024)