Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 713/2024
Cais:
Sawl cwyn am dwyll rhent mae eich heddlu wedi ymdrin â nhw yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf?
A alla i gael crynodeb o’r ffigurau hyn ar y sail ganlynol:
Eglurhad: - Yr amserlen y gofynnwyd amdani am ddata: 01/01/2014 - 18/7/2024. Crynodeb o flwyddyn i flwyddyn.
- Mae twyll rhent yn cyfeirio at achosion lle mae darpar denantiaid yn cael eu twyllo i dalu ffi ymlaen llaw ar gyfer rhentu eiddo pan nad yw’r eiddo’n bodoli, mae’r eiddo wedi’i rhentu yn barod, neu mae’r eiddo wedi’i rhentu i sawl dioddefydd ar yr un pryd. Gweler diffiniad Action Fraud fan hyn: https://www.actionfraud.police.uk/a-z-of-fraud/rental-fraud
- Mae’r gŵyn yn cyfeirio at ddigwyddiad a gofnodwyd.
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Medraf gadarnhau bod y gost o bennu pa un ai a oes unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei dal ai peidio uwchlaw’r hyn y mae’n ofynnol inni ddarparu yn ôl y gyfraith, felly rydym yn atal y cyfan o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod eithriad Adran 12 (2), y Gost o Gydymffurfio yn fwy na'r Terfyn Priodol, yn gymwys iddo.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n: (a) nodi’r ffaith hwnnw, (b) nodi’r eithriad dan sylw ac (c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys. Mae’r eithriad canlynol wedi’i weithredu i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12 (1) – Mae’r gost o gydymffurfio’n fwy na’r Terfyn Priodol
Dywed Adran 12(2): “…Nid yw Is-adran (1) yn eithrio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifol cydymffurfio â’r paragraff hwnnw’n fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o bennu pa wybodaeth sy’n cael ei dal, os o gwbl, mewn perthynas â’ch cais uchod yn uwch na’r hyn y mae’n ofynnol inni roi’n gyfreithiol h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i chasglu’n fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 110 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Cewch hyd i’r rheoliadau ar: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Cynghorwyd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’r cais cyfan ar gael ar ffurf sy’n hawdd i’w hadalw. Mae data ond yn cael ei gadw am 6 blynedd, sy’n golygu na chedwir blynyddoedd 7 – 10. Mae data’n cael ei ddal ar ffurf chwiliadwy o 01/01/2023, fodd bynnag, mae’r data hwnnw’n cael ei greu gan y Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth Twyll, ac nid yw’n cynnwys categori penodol ar gyfer twyll rhent, sy’n cael ei gofnodi gyda sawl math arall o dwyll o dan Reol Cyfrif generig y Swyddfa Gartref, sef ‘NFIB90 – Dim un o’r uchod’.
Yn y flwyddyn 2023 – 2024, cofnodwyd cyfanswm o 3,311 twyll, mewn perthynas â dioddefwyr yn ein hardal heddlu, o dan Reol Cyfrif y Swyddfa Gartref ‘NFIB90 – Dim un o’r uchod’. Gan hynny, er mwyn nodi adroddiadau sy’n ymwneud yn benodol â thwyll rhent, byddai angen adolygu’r naratif o fewn y 3,311 cofnod, ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd 2 funud ar gyfartaledd i ymchwilio pob cofnod unigol. Rhoddir manylion am yr amcangyfrif o ran amser isod:
3,311 cofnod x 2 funud y cofnod = 110 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r CYFAN o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr Heddlu i ddyfynnu eithriadau os ydynt yn berthnasol,
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 12/08/2024)