Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 40/2024
Cais:
Ysgrifennaf atoch i ofyn am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
C1. Nodwch faint o gŵn yr adroddwyd eu bod wedi’u dwyn yn eich ardal yn 2023:
2023 |
|
Adroddiadau am gŵn yn cael eu dwyn |
C2. Dros yr un cyfnod, nodwch faint o’r achosion hyn a gafodd eu datrys (h.y. dychwelwyd yr anifail anwes i’w berchennog):
2023 |
|
Achosion o gŵn a gafodd eu dychwelyd |
C3. Os yn bosibl, nodwch y tri brîd mwyaf cyffredin o gi sy’n cael eu dwyn a nifer pob un a gymerwyd yn 2023:
Cŵn wedi'u dwyn |
Brîd #1 |
Brîd #2 |
Brîd #3 |
|||
Enw |
Nifer |
Enw |
Nifer |
Enw |
Nifer |
|
2023 |
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2), mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a chedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 531.00 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn
https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael gwybod nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais am y cyfnod rhwng 13 Mai 2023 a 31 Rhagfyr 2023 yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adfer gan ein bod yn y broses o weithredu system gofnodi newydd ac ar hyn o bryd ni allwn ddadansoddi'r wybodaeth i'r lefel sy'n ofynnol i ateb eich cais o fewn yr amserlen o 18 awr. Felly, er mwyn canfod pa wybodaeth, os o gwbl, sy'n cael ei chadw mewn perthynas â'r cais am y cyfnod rhwng 13 Mai 2023 a 31 Rhagfyr 2023, byddai angen ymchwilio i'r holl droseddau lladrata yn unigol er mwyn canfod a yw'n ymwneud â dwyn ci. Canfuwyd ar gyfer y cyfnod a amlinellwyd, h.y. 13 Mai 2023 hyd at 31 Rhagfyr 2023, bod cyfanswm o 3,186 o droseddau lladrata y byddai angen ymchwilio iddynt. Amcangyfrifwyd y byddai angen treulio o leiaf deng munud i ymchwilio i drosedd unigol i weld a yw'n berthnasol i'ch cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at yr amcangyfrif amser a ganlyn.
13-05-23 – 31-12-23 = 3,186 o droseddau lladrata ar 10 munud fesul trosedd = 531.00 awr
Cyfanswm o 531.00 awr i gwblhau’r dasg
Sylwch: Yn ogystal, mae modd cael gafael ar yr wybodaeth amcangyfrif amser uchod ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2023 a 12 Mai 2023 o fewn yr amserlen 18 awr ac mae wedi'i chyhoeddi isod fel arwydd o ewyllys da y tu allan i ofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod ar gyfer y CYFAN o’r cais hwn o dan adran 17(5), sef bod rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais er mwyn lleihau’r amser a ddangosir uchod fel ei bod yn cymryd llai na 18 awr i gwblhau’r gwaith. Fodd bynnag, o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarparwyd uchod, mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn golygu y bydd yn cymryd llai na 18 awr gan y bydd yn rhaid defnyddio’r un dull a’r un fformat. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
Er bod costau gormodol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i roi unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi rhoi gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, yr oedd modd ei hadalw’n hawdd ac a amlinellir isod ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2023 a 12 Mai 2023. Gobeithiaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw'n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
Cwestiwn 1:
1 Ionawr 2023 i 12 Mai 2023 – Tri (3) achos o ddwyn cŵn
Cwestiwn 2:
1 Ionawr 2023 i 12 Mai 2023 – Yn achos pob un o’r tri (3) achos o ddwyn cŵn y cyfeiriwyd atynt yng nghwestiwn 1 (uchod), ni chafodd unrhyw un ei ddrwgdybio.
Cwestiwn 3:
1 x Jack Russell
1 x Labrador
1 x Daeargi Patterdale
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 5 Chwefror 2024)