Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 810/2023
Cais:
Nifer yr unigolion a arestiwyd ac a gyhuddwyd o droseddau sydd wedi codi’r amddiffyniad statudol o dan adran 45 o’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern wedi’u dadansoddi fel a ganlyn:
(a) oedolion (18 oed a throsodd)
(b) plant a phobl ifanc (17 oed ac iau)
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani ond rydym yn esemptio rhan o’r wybodaeth gan ein bod yn credu bod yr esemptiad a ganlyn yn berthnasol:
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol
Mae adran 40(2) yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o'r fath. Nid oes gofyniad ychwaith i gynnal prawf budd y cyhoedd.
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol:
Mae adran 40(2) yn berthnasol i ddata personol trydydd parti ac mae wedi’i hesemptio rhag cael ei ddatgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â data sy’n destun prosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn Rhan 3, Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym mhennod 2, “Mae’r rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am gydymffurfio â Phennod 2, a rhaid iddo allu dangos cydymffurfedd â’r bennod honno.”Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai fod budd y cyhoedd yn gryf. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid ystyried hyn wrth ddatgelu o dan y Ddeddf. Oherwydd hyn, mae unrhyw ryddhau sy'n nodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, wedi'i esemptio.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu fwy o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, enetig, feddyliol, economaidd, ddiwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu gan y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â'r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Mae Erthygl 5 o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ – yn darparu ar gyfer y canlynol:
“1. Bydd ‘data personol’
(a) yn cael ei brosesu’n gyfreithlon ac yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â thestun y data (cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder);
(b) wedi’i gasglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb ei brosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; ni fydd prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed–Powys am ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai o bosibl adnabod unigolyn. Yn yr achos penodol hwn, gallai rhyddhau’r ateb i Gwestiwn 1 ochr yn ochr â Chwestiwn 2, yn enwedig o ystyried yr amserlen fer a’r sail trosedd benodol, arwain at adnabod yr unigolion dan sylw a byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath yn torri deddfwriaeth diogelu data yn uniongyrchol.Felly, o ganlyniad, rwyf yn fodlon bod esemptiad adran 40(2), Gwybodaeth bersonol, yn berthnasol i ryddhau’r wybodaeth.
Mae esemptiad adran 40 yn esemptiad ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o'r fath.
Mae esemptiad adran 40 yn amodol yn rhannol ac yn absoliwt yn rhannol. Yn yr achos presennol, byddai'n absoliwt gan y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfwriaeth diogelu data ac felly nid oes unrhyw ofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 18 Ebrill 2024)