Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 210/2024
Cais:
Nifer yr arestiadau yn ôl cenedligrwydd ar gyfer 2022 a 2023.
Ymateb:
Mae adran 12(1) yn berthnasol fel gwybodaeth nad yw ar gael yn hawdd.
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn nodi’r canlynol:
“Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, hy mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004.
Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (hy lleiafswm o 413 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw.
O ganlyniad i weithredu system newydd ar gyfer rheoli cofnodion yr heddlu, lle nad oes gennym y gallu ar hyn o bryd i echdynnu gwybodaeth yn ôl ‘geiriau allweddol’, byddai’n rhaid i ni, felly, wirio pob cofnod dalfa â llaw o 12/05/2023 ymlaen i echdynnu’r wybodaeth cenedligrwydd yn ôl y cais.
Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf pum munud i ymchwilio pob cofnod unigol. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
4,955 cofnod @ 5 munud fesul cofnod = 413 awr
Cyfanswm yr amser yr amcangyfrifir i gwblhau’r cais cyfan = 413 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr, ond o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarperir uchod mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn peri iddo fod o fewn y 18 awr gan y bydd yn rhaid dilyn yr un dull a’r un fformat. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr Heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Ewyllys da:
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu’r wybodaeth ganlynol, a hyderaf y bydd yn ddefnyddiol i chi. Nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
Arestiadau yn ôl cenedligrwydd ar gyfer 2022
Cenedligrwydd |
Cyfanswm |
ANHYSBYS |
9 |
AFFGANISTAN (AFG) |
2 |
ALBANIA (ALB) |
6 |
ANGOLA (AGO) |
1 |
AWSTRALIA (AUS) |
2 |
BANGLADESH (BGD) |
12 |
GWLAD BELG (BEL) |
1 |
BRASIL (BRA) |
3 |
BWLGARIA (BGR) |
11 |
CANADA (CAN) |
1 |
TSIEINA (CHN) |
2 |
Y WERINIAETH TSIEC (CZE) |
6 |
DENMARC (DNK) |
1 |
FFRAINC (FRA) |
4 |
YR ALMAEN (DEU) |
2 |
GHANA (GHA) |
2 |
HONDURAS (HND) |
1 |
HWNGARI (HUN) |
1 |
INDIA (IND) |
7 |
IRAN [Y WEINIAETH ISLAMAIDD] (IRN) |
3 |
IRAC (IRQ) |
14 |
IWERDDON (IRL) |
38 |
YR EIDAL (ITA) |
4 |
JAMAICA (JAM) |
6 |
KENYA (KEN) |
1 |
LATFIA (LVA) |
10 |
LIBANUS (LBN) |
1 |
LITHWANIA (LTU) |
6 |
MALTA (MLT) |
1 |
NEPAL (NPL) |
1 |
YR ISELDIROEDD (NLD) |
3 |
SELAND NEWYDD (NZL) |
2 |
NORWY (NOR) |
1 |
HEB FOD YN BENODOL (NSP) |
1 |
Arall |
9 |
PACISTAN (PAK) |
6 |
PERIW (PER) |
1 |
GWLAD PWYL (POL) |
95 |
PORTIWGAL (PRT) |
5 |
RWMANIA (ROU) |
54 |
FFEDERASIWN RWSIA (RUS) |
1 |
ST LUCIA (LCA) |
1 |
SENEGAL (SEN) |
1 |
SLOFACIA (SVK) |
2 |
SLOFENIA (SVN) |
1 |
SOMALIA (SOM) |
1 |
DE AFFRICA (ZAF) |
1 |
SBAEN (ESP) |
2 |
SRI LANKA (LKA) |
4 |
SWDAN (SDN) |
1 |
SWAZILAND (SWZ) |
1 |
SWEDEN (SWE) |
1 |
GWERINIAETH ARABAIDD SYRIA (SYR) |
5 |
GWLAD THAI (THA) |
2 |
TUNISIA (TUN) |
1 |
TWRCI (TUR) |
9 |
WCRÁIN (UKR) |
3 |
Y DEYRNAS UNEDIG (GBR) |
7,616 |
UNOL DALEITHIAU AMERICA (USA) |
6 |
FIETNAM (VNM) |
3 |
ZAMBIA (ZMB) |
1 |
ZIMBABWE (ZWE) |
7 |
Cyfanswm |
8,006 |
Arestiadau yn ôl cenedligrwydd ar gyfer 2023
Cenedligrwydd |
Cyfanswm |
ANHYSBYS |
3 |
ALBANIA (ALB) |
3 |
BANGLADESH (BGD) |
5 |
GWLAD BELG (BEL) |
1 |
BRASIL (BRA) |
1 |
BWLGARIA (BGR) |
4 |
TSIEINA (CHN) |
4 |
COLOMBIA (COL) |
1 |
CYPRUS (CYP) |
1 |
Y WERINIAETH TSIEC (CZE) |
2 |
DENMARC (DNK) |
1 |
ERITREA (ERI) |
1 |
ESTONIA (EST) |
1 |
FFRAINC (FRA) |
1 |
GWLAD GROEG (GRC) |
1 |
HWNGARI (HUN) |
3 |
INDIA (IND) |
2 |
IRAN [Y WEINIAETH ISLAMAIDD] (IRN) |
1 |
IRAC (IRQ) |
3 |
IWERDDON (IRL) |
11 |
JAMAICA (JAM) |
1 |
LATFIA (LVA) |
8 |
LITHWANIA (LTU) |
5 |
MALAYSIA (MYS) |
1 |
YR ISELDIROEDD (NLD) |
2 |
YNYSYOEDD ISELDIRAIDD Y CARIBÎ (ANT) |
1 |
NIGERIA (NGA) |
3 |
Arall |
2 |
PACISTAN (PAK) |
1 |
GWLAD PWYL (POL) |
25 |
PORTIWGAL (PRT) |
1 |
RWMANIA (ROU) |
15 |
SLOFENIA (SVN) |
2 |
SBAEN (ESP) |
2 |
SRI LANKA (LKA) |
2 |
SWDAN (SDN) |
1 |
SWEDEN (SWE) |
1 |
Y SWISTIR (CHE) |
1 |
GWERINIAETH ARABAIDD SYRIA (SYR) |
2 |
GWLAD THAI (THA) |
1 |
TUNISIA (TUN) |
1 |
TWRCI (TUR) |
7 |
WCRÁIN (UKR) |
3 |
YR EMIRADAU ARABAIDD UNEDIG (ARE) |
1 |
Y DEYRNAS UNEDIG (GBR) |
3,031 |
FIETNAM (VNM) |
1 |
ZIMBABWE (ZWE) |
2 |
(gwag) |
|
Cyfanswm terfynol |
3,173 |
Noder: Dim ond ffigurau hyd at 12/05/2023 y mae’r tabl uchod yn eu darparu. Ni allwn echdynnu’r data y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw fel mater o drefn, yn unol â’r cyngor yn adran 12(1) uchod.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai cyffredinol, ac ni ddefnyddir y gweithdrefnau’n lleol ychwaith i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 3 Ebrill 2024)