Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 552/2023
Cais:
1) Cyllidebau/cyllid neu unrhyw adnoddau a ddyrennir yn uniongyrcholgan yr awdurdod tuag at weithgareddau gwrth-fasnachu a/neu weithgareddau i fynd i’r afael â ‘chaethwasiaeth fodern’ ym mlynyddoedd ariannol 2021 (6 Ebrill 2021 – 5 Ebrill 2022) a 2022 (6 Ebrill 2022 – 5 Ebrill 2023) (er enghraifft, prosiectau pwrpasol, gweithrediadau gwrth-fasnachu, aelodau o staff, ymgyrchoedd gwybodaeth ac ati) a beth yw'r gweithgareddau hyn.
2) Os yw ar gael, copi o’r strategaeth sefydliadol neu unrhyw ddogfen arall sy’n nodi pa gamau sydd i’w cymryd gan yr awdurdod i fynd i’r afael â masnachu mewn pobl a/neu ‘gaethwasiaeth fodern’ fel y’i mandadwyd gan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 y DU.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw / ei chofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys gan na ddyrannwyd unrhyw gyllidebau/cyllid yn uniongyrchol tuag at weithgareddau gwrth-fasnachu a/neu weithgareddau i fynd i’r afael â ‘chaethwasiaeth fodern’ yn 2021 (6 Ebrill 2021 – 5 Ebrill 2022) a 2022 (6 Ebrill 2022 – 5 Ebrill 2023). Dylid nodi nad oes gan Heddlu Dyfed–Powys gyllideb ar wahân / gyllideb benodol wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer caethwasiaeth fodern / masnachu gan y byddai hon yn dod o dan brif gyllideb yr Adran Ymchwilio i Droseddau (CID) ac yn rhan ohoni.
Yn ogystal, nid oes unrhyw aelodau o staff sy'n ymroddedig i fasnachu mewn pobl / caethwasiaeth yn unig, ond mae nifer fawr o swyddogion heddlu, swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu a staff sydd wedi derbyn hyfforddiant mewn cydnabod ac ymchwilio i faterion caethwasiaeth a masnachu mewn pobl, wedi'u lleoli ar draws ardal gyfan Heddlu Dyfed-Powys.
Ymateb 2:
Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu fy mod, yn unol â darpariaeth adran 14(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), wedi penderfynu gwrthod eich cais gan ei fod wedi’i ystyried yn ‘gais blinderus’.
Mae adran 14(1) – Ceisiadau blinderus o’r Ddeddf yn darparu fel a ganlyn:
Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r cais yn flinderus.
Rwyf wedi cymryd sylw o ganllawiau’r Comisiynydd Gwybodaeth ar geisiadau blinderus, sydd i’w gweld yma:
https://ico.org.uk/media/for-organisations/documents/1198/dealing-with-vexatious-requests.pdf
Yn gyntaf ac yn bennaf, wrth ystyried a ddylid gwneud cais am wybodaeth ‘yn flinderus’, mae ystyriaeth wedi’i rhoi i ganllawiau’r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) mewn perthynas â cheisiadau blinderus (adran 14), sy’n nodi’r hyn y mae’r ICO yn ei ddisgwyl gan awdurdod cyhoeddus wrth ystyried adran 14(1). Mae casglu tystiolaeth er mwyn nodi patrwm ymddygiad sy’n datblygu yn ffactor pwysig, yn ogystal â’r cyd-destun a’r hanes ar gyfer gwneud cais, a bydd y rhain yn aml yn ffactorau o bwys wrth benderfynu a yw’r cais yn flinderus. Bydd angen i’r awdurdod cyhoeddus ystyried yr amgylchiadau ehangach ynghylch y cais cyn gwneud penderfyniad ynghylch a yw adran 14(1) yn gymwys.
Mae canllawiau’r ICO ar y pwnc yn nodi fel a ganlyn:
‘Gellir defnyddio adran 14(1) mewn amrywiaeth o amgylchiadau lle na ellir cyfiawnhau cais neu ei effaith ar awdurdod cyhoeddus. Er y dylai awdurdodau cyhoeddus feddwl yn ofalus cyn gwrthod cais fel un blinderus, ni ddylent ystyried adran 14(1) fel rhywbeth sydd ond i’w chymhwyso o dan yr amgylchiadau mwyaf eithafol.
Mewn achosion lle nad yw’r mater yn gwbl glir, y cwestiwn allweddol i’w ofyn yw a yw’r cais yn debygol o achosi lefel anghymesur neu anghyfiawnadwy o darfu, blinder neu drallod. Fel arfer, bydd hyn yn fater o farnu'n wrthrychol y dystiolaeth o'r effaith ar yr awdurdod a phwyso hyn yn erbyn unrhyw dystiolaeth am ddiben a gwerth y cais. Gall yr awdurdod cyhoeddus hefyd ystyried cyd-destun a hanes y cais, lle bo hynny’n berthnasol.’
Yn unol â hynny, rwyf wedi dosbarthu’r cais hwn yn un blinderus o dan adran 14(1) drwy gasglu tystiolaeth o dan y dangosyddion a ganlyn er mwyn nodi a yw’r cais yn ormesol.
Baich ar yr awdurdod:
Mae deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth wedi'i chynllunio i ddarparu cyfleoedd lle gall y cyhoedd roi golau ar benderfyniadau a gweithrediadau awdurdod cyhoeddus.Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid datgelu gwybodaeth yn awtomatig. Byddai gwneud hynny heb rywfaint o ystyriaeth yn fyrbwyll ac yn debygol o dorri deddfwriaeth berthnasol arall, megis y Ddeddf Diogelu Data / y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Yn yr achos penodol hwn, nodwyd bod nifer o ddogfennau sy'n berthnasol i Gwestiwn 2 eich cais, sy'n cyfateb i gyfanswm o 559 o dudalennau. Cyn datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, byddai angen adolygu’r ddogfen gyfan, fesul tudalen, er mwyn sefydlu a oes unrhyw bryderon ynghylch datgelu’r cynnwys a nodir ar bob tudalen ai peidio. Mae hyn oherwydd y ffaith y bydd rhywfaint o’r wybodaeth a gynhwysir ynddi yn sensitif/niweidiol i’w datgelu i’r cyhoedd a byddai’n denu esemptiadau, megis (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) adran 31 (Gorfodi’r gyfraith), adran 23 (Gwybodaeth a ddarparwyd gan gyrff diogelwch neu sy’n ymwneud â hwy), adran 24 (Diogelwch gwladol) neu adran 31, a lle bo esemptiadau yn berthnasol byddai angen hepgor yr wybodaeth.
Byddai adolygu pob un o'r 559 o dudalennau a hepgor lle bo angen yn dasg a fyddai'n cymryd llawer o amser a byddai'n faich ar yr heddlu i ymgymryd â'r dasg hon. Mae hyn oherwydd y ffaith y byddai’n ofynnol yn gyntaf i’r penderfynwr Rhyddid Gwybodaeth gysylltu â’r arweinydd maes busnes sy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern / masnachu mewn pobl, a fyddai’n golygu bod angen i’r penderfynwr Rhyddid Gwybodaeth a’r arweinydd maes busnes ddod at ei gilydd i adolygu a deall cynnwys pob tudalen i nodi pa wybodaeth sy'n rhy sensitif/niweidiol i'w rhyddhau a pha wybodaeth sy'n addas i'w datgelu. Ar gyfer yr wybodaeth yr ystyrir ei bod yn rhy sensitif/niweidiol i'w rhyddhau, bydd angen ystyried pa esemptiadau sy'n berthnasol. Er enghraifft, ystyriaethau ar gyfer adran 40 mewn perthynas ag unrhyw enwau/llofnodion, ystyriaethau ar gyfer adran 31 mewn perthynas ag unrhyw fanylion plismona, megis tactegau, a fyddai’n peryglu gorfodi’r gyfraith pe byddent yn cael eu datgelu ac ati. Yn dilyn y broses hon, byddai'n ofynnol wedyn i'r penderfynwr Rhyddid Gwybodaeth hepgor unrhyw wybodaeth o'r tudalennau a ystyrir yn sensitif/niweidiol a hefyd drafftio ei ymateb yn manylu ar unrhyw esemptiadau sy'n cael eu cymhwyso, gan sicrhau bod profion budd y cyhoedd a phrofion niwed yn cael eu cynnal lle bo angen.
Amcangyfrifwyd y byddai adolygu ac ystyried yr ystyriaethau angenrheidiol (gan gynnwys cysylltu â’r arweinydd maes busnes) o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cymryd o leiaf deg munud y dudalen, a fyddai'n cyfateb i 93.17 awr. Er mwyn ymgymryd â'r dasg hon, byddai angen tynnu penderfynwr o fewn yr Uned Rhyddid Gwybodaeth o'i ddyletswyddau arferol am tua 12.6 diwrnod gwaith er mwyn darparu ymateb sy'n cydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mewn perthynas â'r mater hwn. Nid yw hyn yn cymryd i ystyriaeth faint o amser ychwanegol y byddai'n ei gymryd i adolygu'r dogfennau sydd wedi'u cynnwys a’u hymgorffori ar rai o'r tudalennau yr ystyrir eu bod yn berthnasol i Gwestiwn 2 y cais hwn.
Ar 25 Mawrth 2024, mae 281 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth sydd ar hyn o bryd yn fyw ac yn disgwyl cael eu cwblhau. Ar hyn o bryd, mae tri phenderfynwr yn delio â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth a byddai tynnu un o'r penderfynwyr hynny o’i ddyletswyddau arferol i gyflawni'r un dasg hon yn faich sylweddol ar yr Uned Rhyddid Gwybodaeth a'r Uned Rheoli Gwybodaeth yn eu cyfanrwydd. Er nad oes amheuaeth ynghylch y cymhellion neu gyfrifoldebau cyfreithiol dros ofyn am yr wybodaeth hon, mae Heddlu Dyfed–Powys o’r farn y bydd yr ymdrech i fodloni’r cais yn ormesol o ran y straen ar amser ac adnoddau ac na all fod disgwyl rhesymol i’r awdurdod gydymffurfio.
Yn ogystal, wrth ystyried yr uchod, rwyf hefyd yn cyfeirio at hysbysiad penderfynu blaenorol gan yr ICO, fel yr amlinellir yn y ddolen isod, lle daeth yr ICO i’r casgliad bryd hynny o dan amgylchiadau tebyg ei fod yn derbyn bod y baich yn ddigon mawr y gellir ei gategoreiddio’n briodol fel bod yn ormesol iawn, ac ni ellir cyfiawnhau delio â’r cais o dan amgylchiadau o’r fath. Yn unol â hynny, er ei fod yn ystyried bod yr achos hwn yn un anodd i’w fantoli, mae’r Comisiynydd o’r farn bod adran 14(1) wedi’i chymhwyso’n briodol yn yr achos hwn.
https://ico.org.uk/media/action-weve-taken/decision-notices/2014/1025456/fs_50539606.pdf
Casgliad a phenderfyniad:
Wrth ystyried y ffeithiau uchod, rwy’n fodlon bod y cais hwn yn bodloni’r meini prawf (fel yr amlinellir isod) yn unol â darpariaeth adran 14(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, lle bernir bod y cais yn ‘flinderus’ gan y byddai’n achosi baich sylweddol i’r awdurdod.
Mae adran 14(1) o’r Ddeddf yn darparu fel a ganlyn:
Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r cais yn flinderus.
Yn unol â hynny, rwyf wedi dosbarthu eich cais fel un blinderus o dan adran 14(1) am y rhesymau a amlinellwyd uchod.
Fodd bynnag, o dan adran 16 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (help a chymorth), gweler yr hyperddolenni isod i wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol.
Ymhellach ac yn ychwanegol at yr ymatebion uchod, ni all Heddlu Dyfed–Powys gadarnhau na gwadu ei fod yn cadw unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas â chorff esempt gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol yn rhinwedd yr esemptiad a ganlyn:
Adran 23(5) Gwybodaeth a ddarperir gan gyrff diogelwch penodol neu sy'n ymwneud â hwy
Mae adran 23 yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth ac nid oes gofyniad i ystyried budd y cyhoedd yn yr achos hwn.
Byddai cadarnhau neu wadu p’un a oes unrhyw wybodaeth arall yn cael ei chadw yn mynd yn groes i’r cyfyngiadau a nodir yn adran 23 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gan fod hyn yn mynnu gwaharddiad cyffredinol ar ddatgelu unrhyw wybodaeth a ddefnyddiwyd gan gyrff diogelwch penodol neu sy’n ymwneud â hwy.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarparwyd fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 8 Ebrill 2024)