Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 314/2024
Cais:
Faint o ddigwyddiadau yn ymwneud â darganfod ac atafaelu arfau tanio 3D sydd wedi’u hargraffu sydd wedi bod ers 2020 hyd heddiw?
A allwch chi ddadansoddi'r ffigurau hyn fesul blwyddyn?
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Ni all Heddlu Dyfed–Powys gadarnhau ai peidio a ydym yn cadw gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, gan ein bod yn ystyried bod adran 31(3), gorfodi’r gyfraith, ac adran 24(2), diogelwch gwladol, yn berthnasol.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed–Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Tystiolaeth o niwed
Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn nodi gweithgarwch ar lefel leol o ran defnyddio a/neu atafaelu arfau 3D sydd wedi’u hargraffu. Yn ei dro, mae perygl y gallai hyn ddatgelu ymwybyddiaeth yr heddlu o arfau o'r fath yn ardal yr heddlu. Pan wneir y cais i nifer o heddluoedd, mae risg bellach y byddai cadarnhau neu wadu yn datgelu gwybodaeth y gellid ei defnyddio i greu darlun o ble mae ymchwiliadau ac ymgyrchoedd cenedlaethol a lleol yn cael eu cynnal – a hefyd, ac efallai yn fwy perthnasol, gellid datgelu’r ardaloedd hynny lle nad ydynt yn cael eu cynnal – i frwydro yn erbyn cyflenwad, dosbarthiad a defnydd yr arfau hyn. Byddai'r effaith fapio hon, a grëir gan heddluoedd naill ai'n cadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw ac yn nodi esemptiad sylweddol neu, i'r gwrthwyneb, yn nodi 'nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw', yn tanseilio'r broses effeithiol o orfodi'r gyfraith weithredol trwy ddatgelu cudd-wybodaeth yr heddlu mewn perthynas ag arfau tanio 3D sydd wedi’u hargraffu, yn ogystal â pheryglu ymchwiliadau a allai fod ar y gweill, y gallai rhai ohonynt fod yn ymchwiliadau cudd.
Ystyrir bod datgelu gwybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gyfystyr â rhyddhau gwybodaeth i'r byd i gyd, ac nid yn drafodiad preifat. Heb gwestiynu cymhellion y ceisydd yn yr achos hwn, drwy wneud datgeliad cyhoeddus o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rhaid ystyried y bydd troseddwyr, gan gynnwys terfysgwyr, yn gallu cyrchu’r data a ryddhawyd, yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd. Gwyddys yn eang fod gangiau troseddol sydd wedi’u trefnu, a’r bobl hynny sy’n ymwneud â gweithgarwch sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, yn monitro datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth yn agos am unrhyw wybodaeth y gallant ei defnyddio i hybu eu gweithgarwch troseddol.
Ni ellir anwybyddu’r bygythiad gan derfysgaeth. Dylid cydnabod bod yr amgylchedd diogelwch rhyngwladol yn gynyddol gymhleth ac anrhagweladwy. Mae’r DU yn wynebu bygythiad parhaus gan derfysgwyr ac eithafwyr treisgar. Ers 2006, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi lefel y bygythiad, yn seiliedig ar yr wybodaeth gyfredol, gan nodi bod lefel y bygythiad i'r DU ar hyn o bryd yn “sylweddol”, sy'n golygu bod ymosodiad yn debygol.
https://www.mi5.gov.uk/threat-levels
Bydd unrhyw wybodaeth sy’n nodi’r hyn y mae’r gweithgarwch plismona’n canolbwyntio arno y gellid ei defnyddio er budd sefydliadau troseddol, grwpiau troseddau difrifol ac sydd wedi’u trefnu, a therfysgwyr i danseilio uniondeb gweithredol plismona yn effeithio’n andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar, nid yn unig gorfodi’r gyfraith yn lleol, ond plismona ac ymgyrchoedd yr heddlu ar y lefel genedlaethol, gan beryglu diogelwch cenedlaethol y DU.
Ystyriaethau budd y cyhoedd
Adran 24(2) Diogelwch gwladol
Ffactorau o blaid cydymffurfio ag adran 1(1)(a)
Byddai unrhyw wybodaeth sy'n cynyddu gwybodaeth y cyhoedd am sut y caiff adnoddau eu dyrannu mewn ymateb i ddigwyddiadau yn ffactor o blaid datgelu’r wybodaeth. Byddai hyn hefyd yn cefnogi pwrpas sylfaenol y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, sef bod yn fwy agored a thryloyw yn y ffordd y mae’r heddlu’n gweithredu, gan eu gwneud yn fwy atebol am eu gweithredoedd. Byddai rhyddhau unrhyw fanylion ynghylch atafaelu arfau saeth 3D sydd wedi’u hargraffu yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod gan yr heddlu adnoddau priodol yn y maes hwn ac y byddent mewn sefyllfa i ymateb i unrhyw fygythiadau neu ddigwyddiadau mewn perthynas â diogelwch gwladol. Byddai unrhyw wybodaeth a fyddai'n caniatáu trafodaeth gyhoeddus fwy cywir yn ffactor cadarnhaol o blaid datgelu.
Ffactorau yn erbyn cydymffurfio ag adran 1(1)(a)
Er bod budd i'r cyhoedd mewn sicrhau bod yr heddlu'n ymdrin yn briodol ac yn effeithiol â bygythiadau gan sefydliadau terfysgol, mae hefyd elfen gref o fudd i’r cyhoedd mewn diogelu diogelwch gwladol a diogelwch a lles y cyhoedd yn gyffredinol. Mae gan unrhyw ddatgeliad (gan gynnwys cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw) y potensial i danseilio ymgyrchoedd parhaus ac ymgyrchoedd yn y dyfodol i ddiogelu diogelwch y Deyrnas Unedig, e.e. gweithgarwch gwrthderfysgaeth. Byddai'r risg o niwed sylweddol, neu hyd yn oed farwolaeth, i'r gymuned yn gyffredinol yn cynyddu.
Os bydd terfysgwyr yn casglu gwybodaeth o wahanol ffynonellau, gallent gronni’r wybodaeth hon er mwyn creu darlun o wendidau posibl ar lefel leol. Po fwyaf yr wybodaeth a gaiff ei rhannu dros amser, y manylach fydd y ddelwedd o nid yn unig ymchwiliadau’r ardal heddlu leol, ond y wlad gyfan hefyd. Byddai unrhyw ddigwyddiad sy'n deillio o ddatgelu gwybodaeth o'r fath yn effeithio, trwy hynny, ar ddiogelwch gwladol.
Adran 31(3) Gorfodi’r gyfraith
Ffactorau o blaid cydymffurfio ag adran 1(1)(a)
Mae adroddiadau yn y cyfryngau am y cynnydd yn yr arfau hyn, fel drylliau 3D sydd wedi’u hargraffu’n ymddangos ar strydoedd Prydain, sydd ynddo'i hun yn ffactor o blaid cadarnhau neu wadu.
Byddai cadarnhau neu wadu bod yr wybodaeth hon yn cael ei chadw yn hybu ymwybyddiaeth aelodau'r cyhoedd o fygythiad rhai troseddau a gallu'r heddlu i ddelio â nhw. Gallai gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd arwain at gyflwyno rhagor o wybodaeth i’r heddlu am achosion pellach posibl o ddefnyddio arfau tanio 3D sydd wedi’u hargraffu ac unrhyw weithredoedd o droseddoldeb, neu derfysgaeth ganfyddedig, oherwydd byddai aelodau o’r cyhoedd yn sylwi’n fwy ar weithgarwch amheus, a allai hyn, yn ei dro, arwain at ostyngiad mewn trosedd.
Ffactorau yn erbyn cydymffurfio ag adran 1(1)(a)
Gallai cadarnhau neu wadu bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei chadw beryglu tactegau gorfodi'r gyfraith, a fyddai'n rhwystro gallu'r heddlu i atal a chanfod troseddau. Er y gallai'r wybodaeth hon ar ei phen ei hun ymddangos yn ddiniwed, gallai gwybodaeth ychwanegol sydd eisoes ar gael i’r cyhoedd, neu y gofynnir amdani yn y dyfodol, niweidio heddluoedd a chyfrannu at yr effaith mosaig. Mae’r effaith ‘fosaig’ yn debyg i adeiladu jig-so, gan ddefnyddio datgeliadau i’r cyhoedd a gwybodaeth arall i lenwi’r darnau’n raddol i ffurfio darlun cyflawn. I droseddwyr, gan gynnwys grwpiau troseddau difrifol ac sydd wedi’u trefnu a therfysgwyr, byddai cael mynediad hawdd at wybodaeth o’r fath nid yn unig yn tanseilio prif swyddogaeth yr heddlu o orfodi’r gyfraith, ond hefyd yn rhoi’r cyhoedd mewn perygl sylweddol o niwed.
Prawf cydbwysedd
Byddai cadarnhau neu wadu bod unrhyw wybodaeth o'r fath yn cael ei chadw, neu ddim yn cael ei chadw, yn dynodi lefelau’r gweithgarwch plismona ar lefel yr heddlu. Gallai hyn ganiatáu i unigolion werthuso lefelau’r gweithgarwch ar draws ardaloedd heddlu unigol a manteisio ar yr ardaloedd hynny yr ystyrir eu bod yn ardaloedd llai gweithredol neu sydd â llai o adnoddau. Byddai datgelu’r wybodaeth hon yn ychwanegu’n barhaus at y gronfa o ddata sydd ar gael i’r cyhoedd, gan helpu troseddwyr a therfysgwyr i greu darlun cyflawn o sut a ble i gyflawni eu gweithgareddau troseddol heb ofni cael eu canfod neu eu dal.
Mae diogelwch y wlad o'r pwys mwyaf. Ni fydd yr heddlu’n datgelu unrhyw wybodaeth a fyddai’n rhoi diogelwch swyddogion neu’r cyhoedd mewn perygl neu a fydd yn tanseilio diogelwch gwladol. Er ei bod o fudd i’r cyhoedd i sicrhau tryloywder wrth blismona ac, yn yr achos hwn, rhoi sicrwydd bod gwasanaeth yr heddlu yn ymgysylltu’n briodol ac yn effeithiol â’r bygythiad o weithgarwch sy’n ymwneud ag arfau, mae elfen gref o fudd i’r cyhoedd mewn diogelu diogelwch gwladol ac uniondeb ymchwiliadau ac ymgyrchoedd yr heddlu. Nid yw rhyddhau gwybodaeth o’r fath i’r cyhoedd er budd pennaf diogelwch y wlad, yr heddluoedd unigol, na’r cyhoedd, gan y gallai gael ei defnyddio gan y bobl hynny sy’n bwriadu achosi niwed. Yn ein barn ni, nid yw’r prawf cydbwysedd yn cyfiawnhau cadarnhau neu wadu bod yr wybodaeth hon yn cael ei chadw ar gyfer y materion hyn.
Ni ellir dod i unrhyw gasgliad o'r gwrthodiad hwn i ddatgan bod gwybodaeth yn bodoli neu nad yw'n bodoli.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Ebrill 2024)