Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 730/2023
Cais:
Hoffwn gael manylion yr holl achosion a adroddwyd o blant a phobl yn eu harddegau yn cael eu blacmelio mewn perthynas â lluniau noethni y maent naill ai wedi’u hanfon at y blacmeliwr dilynol neu y mae’r blacmeliwr wedi’u cael trwy ryw ddulliau eraill.
Rhannwch y ffigurau yn ôl nifer yr achosion fesul mis rhwng Mehefin 2020 a Mehefin 2023.
Cwestiwn i geisio eglurhad:
A ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Sylwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Digwyddiad yw cofnod o gyswllt a wnaed â’r heddlu gan unigolyn/aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101), a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd er mwyn i’r heddlu dybio bod trosedd wedi digwydd, fel y’i diffinnir gan y gyfraith.
Ateb i egluro:
Rwy’n cyfeirio at ddigwyddiadau.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiwn 1 y cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw isadran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004.Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 126 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Felly, er mwyn canfod pa wybodaeth, os o gwbl, sy’n cael ei chadw mewn perthynas â’ch cais byddai angen edrych yn unigol ar bob digwyddiad dros yr amserlen a bennwyd i nodi a oedd y digwyddiad dan sylw yn ymwneud â’r math hwn o drosedd. Canfuwyd bod cyfanswm o 761 o adroddiadau y byddai angen ymchwilio iddynt ar gyfer y cyfnod a bennir yn y cais. Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i ymchwilio i un digwyddiad i weld a ydyw’n berthnasol i’ch cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at yr amcangyfrif amser canlynol.
Mehefin 2020 – Rhagfyr 2020: 74 cofnod
2021: 205 cofnod
2022: 287 cofnod
Ionawr 2023 – Mehefin 2023: 195 cofnod
Cyfanswm o 761 cofnod x 10 munud y cofnod = 126.8 awr
Cyfanswm o 126.8 awr i gwblhau’r dasg
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yw’n berthnasol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 9 Ebrill 2024)