Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 232/2024
Cais:
Ysgrifennaf atoch o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Gweler isod gais am yr wybodaeth ganlynol yn ymwneud â digwyddiadau lle camddefnyddiwyd dronau, yn benodol y rhai lle yr adroddwyd eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer stelcio neu aflonyddu ar ddioddefwyr.
O ystyried hygyrchedd a defnydd cynyddol dronau, mae deall eu camddefnydd at ddibenion o'r fath yn hanfodol ar gyfer pryderon diogelwch a phreifatrwydd y cyhoedd.
Yn benodol, hoffwn ofyn am yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob un o'r cyfnodau amser canlynol:
Ionawr 2018 – Rhagfyr 2018
Ionawr 2019 – Rhagfyr 2019
Ionawr 2020 – Rhagfyr 2020
Ionawr 2021 – Rhagfyr 2021
Ionawr 2022 – Rhagfyr 2022
Ionawr 2023 – Rhagfyr 2023
Ionawr 2024 – Chwefror 2024 (y mwyaf diweddar sydd ar gael)
Cwestiwn 1:
Beth yw cyfanswm y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ymwneud â chamddefnyddio dronau bob blwyddyn?
Cwestiwn 2:
Sawl digwyddiad o gamddefnyddio dronau y cafwyd lle adroddwyd eu bod wedi cael eu defnyddio at ddibenion troseddau fel stelcio, aflonyddu neu voyeuriaeth bob blwyddyn?
Cwestiwn 3:
A oes unrhyw batrymau wedi'u nodi yn y digwyddiadau hyn?
Cwestiwn 4:
A oes unrhyw ganllawiau, polisïau neu fentrau a weithredir gan eich heddlu i fynd i'r afael â chamddefnyddio dronau ar gyfer stelcio neu aflonyddu?
Cwestiwn 5:
Yn olaf, byddai gennym ddiddordeb mewn gwybod a oes gennych swyddog ar gael ar gyfer cyfweliad am y data a ddarperir gennych, ac a yw'n bosibl neu beidio i ffilmio gydag unrhyw ddioddefwyr a/neu uned dronau’r heddlu.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiynau 1–3 o’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod ni’n ystyried bod esemptiad adran 12(2), Cost cydymffurfio sy’n fwy na'r terfyn priodol, yn berthnasol iddi.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sy’n:
(a) datgan y ffaith honno
(b) pennu'r esemptiad o dan sylw
(c) datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad a ganlyn wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Mae cost cydymffurfio yn fwy na'r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn nodi fel a ganlyn:
“…Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn fwy na’r terfyn priodol.”
Mae cost penderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i Gwestiwn 2 eich cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae cost dod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn uwch na’r “lefel briodol” a nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004.
Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 34,505 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae'r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw'r wybodaeth mewn perthynas â'ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adfer.
Byddai nodi pa adroddiadau am ddigwyddiadau sy'n ymwneud â ‘stelcio' ac 'aflonyddu' neu 'voyeuriaeth’, a pha rai o'r rhai a oedd yn ymwneud â defnyddio 'drôn', yn golygu chwilio â llaw y geiriau allweddol hynny neu eiriau allweddol tebyg o fewn manylion yr adroddiadau priodol. Ar hyn o bryd, ni allwn wneud chwiliadau geiriau allweddol yn y mathau hynny o adroddiadau.
Ymhellach i hyn, er ein bod wedi gallu darparu amcangyfrif o’r amser mewn perthynas ag adroddiadau am ddigwyddiadau sydd wedi'u categoreiddio fel ‘C-Domestig', ‘C-Aflonyddu' a 'P-Amheus' trwy dagiau a osodir, nid oes tag ar gyfer ‘stelcio' ar hyn o bryd. Mae hyn yn cael ei ddatblygu.
Hyd yn oed wedyn, nid oes tag penodol ar gyfer ‘drôn’, felly byddai’n rhaid cynnal chwiliad â llaw amdano.
Mae wedi’i sefydlu ar gyfer y cyfnod a nodir yn y cais (h.y. 2018–2024) fod cyfanswm o 207,027 o gofnodion digwyddiad y byddai angen ymchwilio iddynt.
Amcangyfrifwyd y byddai'n cymryd o leiaf deg munud i ymchwilio i un digwyddiad unigol i weld a yw'n berthnasol i Gwestiwn 2 eich cais, fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at ddadansoddiad o'r amcangyfrif amser fel a ganlyn.
2018
Domestig – 9,329 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,555 awr
Aflonyddu – 6,414 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,069 awr
Amheus – 11,947 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,991 awr
Byddai'n cymryd 4,615 awr i chwilio pob cofnod digwyddiad â llaw
2019
Domestig – 11,765 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,961 awr
Aflonyddu – 6,475 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,079 awr
Amheus – 10,813 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,802 awr
Byddai'n cymryd 4,842 awr i chwilio pob cofnod digwyddiad â llaw
2020
Domestig – 13,043 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 2,174 awr
Aflonyddu – 7,891 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,315 awr
Amheus – 11,073 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,846 awr
Byddai'n cymryd 5,335 awr i chwilio pob cofnod digwyddiad â llaw
2021
Domestig – 13,801 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 2,300 awr
Aflonyddu – 11,776 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,963 awr
Amheus – 10,958 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,826 awr
Byddai'n cymryd 6,089 awr i chwilio pob cofnod digwyddiad â llaw
2022
Domestig – 14,794 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 2,466 awr
Aflonyddu – 11,879 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,980 awr
Amheus – 9,197 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,533 awr
Byddai'n cymryd 5,979 awr i chwilio pob cofnod digwyddiad â llaw
2023
Domestig – 15,511 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 2,585 awr
Aflonyddu – 12,869 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 2,145 awr
Amheus – 9,257 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 1,543 awr
Byddai'n cymryd 6,273 awr i chwilio pob cofnod digwyddiad â llaw
1 Ionawr 2024 – 28 Mawrth 2024
Domestig – 3,342 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 557 awr
Aflonyddu – 2,857 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 476 awr
Amheus – 2,036 o gofnodion digwyddiad @ 10 munud = 339 awr
Byddai'n cymryd 1,372 awr i chwilio pob cofnod digwyddiad â llaw
Cyfanswm yr amcangyfrif amser i gwblhau'r cais cyfan = 34,505 awr.
Nodwch y canlynol: Mae'r cofnodion digwyddiad uchod a ddyfynnir yn yr amcangyfrif amser wedi'u categoreiddio o dan y tagiau canlynol:
Pan ddaw'r tag C-Stelcio newydd i rym, bydd y rhestr hon yn ddi-os yn cynyddu.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r CYFAN o’r cais hwn o dan adran 17(5), sef bod rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn berthnasol, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i'r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod i ddod o fewn y 18 awr, ond o ystyried yr amcangyfrif o’r amser a ddarparwyd uchod, mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn dod o fewn 18 awr gan y bydd yn rhaid dilyn yr un dull a fformat.Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Ewyllys da:
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau'r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu’r wybodaeth ganlynol, y gobeithiaf y bydd yn ddefnyddiol i chi. Nid yw'n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
Cwestiwn 1
Byddai hyn hefyd yn arwain at amcangyfrif amser gan nad oes tag penodol ar gyfer ‘drôn’, felly byddai’n rhaid i ni chwilio’r holl gofnodion perthnasol â llaw i benderfynu a ddefnyddiwyd un.
Cwestiwn 3
Unwaith eto, byddai hyn yn amodol ar amcangyfrif amser gan na fyddem yn gallu pennu nifer y digwyddiadau/troseddau perthnasol yn hawdd.
Cwestiwn 4
Ar hyn o bryd, nid oes polisi o'r fath gan Heddlu Dyfed-Powys.
Cwestiwn 5
Mae'n bosibl y gallem ddarparu swyddog i gael ei gyfweld mewn perthynas ag uned dronau’r heddlu, ac efallai y bydd modd ffilmio uned dronau’r heddlu, ar yr amod bod y fetio perthnasol ac ati wedi'i gwblhau, ond ni fyddai'r swyddog a gyfwelwyd ond yn gallu gwneud sylwadau ar waith uned dronau’r heddlu ar sail tasg, gan na fyddai ganddo fynediad i unrhyw ran o'r data y gofynnwyd amdano uchod.
Byddai’n briodol cysylltu â Swyddfa’r Wasg ([email protected]) pe baech yn dymuno trafod cyfweld ag aelod o uned dronau’r heddlu yn gyffredinol.
O ran ffilmio gyda dioddefwyr, byddai'n anodd gan y byddai angen i ni yn gyntaf nodi dioddefwyr penodol, yn unol â'r rhesymeg uchod, ac yna mynd atynt i weld a fyddent yn fodlon cael eu cyfweld. Nid ydym yn credu bod hyn yn rhesymol nac yn briodol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 8 Ebrill 2024)