Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 334/2024
Ceisiadau 1 a 2:
Ar gyfer y misoedd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023 ac (os yw’r manylion ar gael) am dri mis cyntaf 2024, a fyddech cystal â datgelu’r canlynol?
1) Cyfanswm nifer y cerbydau yn eich heddlu a gafodd eu difrodi mewn damweiniau yn ymwneud â thyllau yn y ffordd.
(A fyddech cystal â rhoi disgrifiad / manylion, e.e. ‘cerbyd y tu hwnt i’w drwsio’, ond dim ond os nad yw hyn yn gofyn am fwy o amser / arian nag a nodir dan y Ddeddf. Fel arall, bydd cyfanswm nifer y cerbydau sydd wedi’u difrodi yn unig yn ddigonol).
2) Cyfanswm gwerth ariannol y difrod sy’n gysylltiedig â thyllau yn y ffordd a achoswyd i gerbydau eich heddlu.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys gan nad yw’r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys.
Sylwer: Yr wybodaeth y byddwn yn ei chael fel arfer yw diffyg o ran sŵn o hongiad neu olwyn wedi’i difrodi, ond byddai canfod a oedd hyn yn deillio o dwll yn y ffordd, cwrbyn, neu rwystr ar y ffordd yn amhosibl gan ei fod yn gwbl ddibynnol ar gynnwys adroddiad y swyddog.
Oherwydd hyn, byddai’n amhosibl canfod unrhyw fath o ddata sy’n benodol i dyllau yn unig, ac o’m trosolwg personol i, ni allaf feddwl yn benodol am unrhyw enghraifft yr wyf wedi’i weld yn ymwneud â difrodi cerbyd yr heddlu.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 25 Ebrill 2024)