Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 832/2023
Cais:
Mewn perthynas â blwyddyn galendr 2022, darparwch yr wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:
1. Faint o bobl yn ardal eich awdurdodaeth sydd wedi cael eu cyhuddo o’r canlynol:
a) achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus
b) achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal
c) achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad diod neu gyffuriau
2. Mewn sawl achos y gosodwyd gwaharddiad gyrru fel rhan o amodau mechnïaeth yn dilyn y cyhuddiadau o’r canlynol:
a) achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus
b) achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal
c) achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad diod neu gyffuriau
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
a) 2
b) 2
c) 0
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
a) 0
b) 0
c) 0
Sylwch efallai na fydd gan Heddlu Dyfed–Powys fynediad llawn i gofnodion y llys ac efallai fod y llys wedi gosod gwaharddiadau gyrru. O’r herwydd, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael gwybodaeth ychwanegol drwy gwblhau cais Rhyddid Gwybodaeth i GLlTEF – Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, y bydd Tîm Rhyddid Gwybodaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymdrin ag ef, drwy’r ddolen ganlynol:
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder – GOV.UK (www.gov.uk)
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 18 Ebrill 2024)