Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 325/2024
Cais:
Ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf, a allwch chi fanylu:
1 - Cyfanswm nifer yr hawliadau gwahaniaethu a wnaed gan weithwyr sydd wedi'u setlo gan eich heddlu;
2 - Ar wahân, dadansoddwch y rhain yn gategorïau o fathau o wahaniaethu sydd wedi'u setlo gan eich heddlu. (Y naw nodwedd warchodedig yw: oedran, ailbennu rhywedd; bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil; bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth; anabledd; hil, gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol; crefydd neu gred; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol.);
3 - Ar gyfer pob un o’r uchod, rhowch fanylion nifer yr hawliadau hyn, wedi’u dadansoddi yn ôl y naw nodwedd warchodedig, sydd wedi’u setlo gyda chytundeb peidio â datgelu gwybodaeth yn ei le;
4 - Ymhellach, faint o arian sydd wedi'i dalu i gyd gan eich heddlu i setlo hawliadau gwahaniaethu gan weithwyr;
5 - Ar wahân, faint o arian sydd wedi'i dalu gan eich heddlu i setlo hawliadau gwahaniaethu gan weithwyr, wedi'i rannu'n naw nodwedd warchodedig.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Blwyddyn |
Hawliad anabledd |
Hawliad oedran |
|
2019 |
2 |
0 |
|
2020 |
0 |
1 |
|
2021 |
1 |
0 |
|
2022 |
0 |
0 |
|
2023 |
2 |
0 |
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Gweler Ymateb 1.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
0.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
£193,792.00
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Anabledd = £177,169.20
Oedran = £16,622.80
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 8 Ebrill 2024)