Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 702/2023
Cais:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Oes
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Oes
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Yn ystod, ac ar ôl pob hediad drôn. Efallai na fydd hyn yn digwydd bob dydd. Ni allwn fod yn fwy penodol.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae modd rhannu’r data o’r dronau yn fras i ddau gategori: DATA GODDEFOL (Telemateg, ac ati) a DATA BYW, megis recordiadau fideo neu gymryd lluniau.
Gellir defnyddio DATA BYW yn ddiweddarach ar gyfer ymchwiliadau, cymryd lluniau mewn lleoliad i’w defnyddio fel tystiolaeth, neu i gasglu gwybodaeth am leoliadau cyn gweithredu gwarant, ac ati, cyn belled â bod caniatâd i gymryd delweddau o’r fath. Mae DATA BYW DRONAU hefyd yn cael eu defnyddio’n rheolaidd ar gyfer ymgyrchoedd chwilio ac achub, er enghraifft mewn perthynas ag unigolion sydd ar goll ac yn wynebu risg uchel. Mae modd defnyddio’r data hyn hefyd i ategu digwyddiadau mawr neu ddigwyddiadau o aflonyddwch sifil, er enghraifft i gynorthwyo penaethiaid uned wrth gefn yr heddlu neu benaethiaid drylliau tanio tactegol a strategol.
Ymateb 5 a 6:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae esemptiad gorfodi’r gyfraith o dan adran 31(1)(a)(b) wedi’i gymhwyso i rywfaint o’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan felly esemptio rhyddhau’r wybodaeth.
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) Yn datgan y ffaith honno
(b) yn pennu’r esemptiad(au) dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Adran 31(1)(a)(b) Gorfodi’r gyfraith:
(1) Mae gwybodaeth nad yw’n wybodaeth esempt yn rhinwedd adran 30 yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio, neu’n debygol o niweidio—
(a) y gwaith o atal neu ganfod trosedd
(b) y gwaith o ddal neu erlyn troseddwyr
Mae adran 31 yn esemptiad amodol ar sail niwed ac felly mae gofyniad i ddarparu manylion y niwed yn ogystal â phrawf budd y cyhoedd.
Tystiolaeth o niwed
Nid yw cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn drafodiad preifat. Ystyrir bod y cais ei hun, ac unrhyw wybodaeth sy’n cael ei datgelu, yn addas i’w chyhoeddi’n agored. Y rheswm am hyn yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei datgelu yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus ehangach, ac i’r byd, i bob pwrpas, ac nid i unigolyn yn unig.
Er nad yw cymhellion yr ymgeisydd yn cael eu cwestiynu, byddai darparu unrhyw wybodaeth bellach yn ymwneud ag offer neu dechnolegau penodol sy’n cael eu defnyddio ar gyfer archwiliadau fforensig o drôn yn datgelu ein gallu fforensig digidol yn ehangach. Byddai’r wybodaeth hon yn werthfawr i droseddwyr.
Bydd datgelu tactegau plismona, a’r offer sydd ar gael i’r heddlu, yn golygu y byddai’r aelodau hynny o’r cyhoedd sy’n cyflawni troseddau ac sy’n peri risg i’r cyhoedd, yn gallu dod o hyd i ffyrdd o osgoi’r tactegau a’r offer sy’n cael eu defnyddio. Os bydd y tactegau hyn yn cael eu datgelu byddant yn dod yn llai effeithiol. Bydd hyn yn golygu na fydd yr heddlu yn gallu canfod ac atal trosedd, dal nac erlyn troseddwyr na rhoi cyfiawnder i’r gymuned ehangach.
Mae dyletswydd gofal i’r cyhoedd bob amser ac mae gan wasanaeth yr heddlu gyfrifoldeb clir i sicrhau bod trosedd yn cael ei atal neu ei ddatrys, a bod troseddwyr yn cael eu dal neu eu herlyn bob amser. Mae nifer o dactegau ar gael i wasanaeth yr heddlu er mwyn sicrhau bod y gyfraith weithredol yn cael ei gorfodi mewn ffordd effeithiol. Yn yr achos hwn, mae’n ofynnol i weithgarwch plismona o’r fath gynnal ymchwiliadau teg lle gallai fod yn angenrheidiol i ddilyn amrywiaeth o lwybrau ymholi rhesymol. Enghraifft o hyn, efallai, yw pan fydd adroddiadau’n cael eu darparu i’r heddlu gan ddioddefwyr, unigolion a ddrwgdybir a thystion. Fodd bynnag, oherwydd natur y gofynion, mae’n bosibl iawn y bydd angen strategaeth fforensig a chasglu data at ddibenion tystiolaethol pellach.
Oherwydd hyn, ni all datgelu unrhyw wybodaeth bellach a fyddai’n llesteirio swyddogaethau gorfodi’r gyfraith yr heddluoedd fod er budd y cyhoedd.
Prawf budd y cyhoedd
Ffactorau o blaid datgelu ar gyfer adran 31 – Lle mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, mae atebolrwydd a chyfiawnhau defnyddio arian cyhoeddus o fudd i’r cyhoedd. Byddai datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn galluogi’r cyhoedd i asesu a ydyw’r heddlu wedi cymryd camau priodol i helpu i leihau trosedd drwy ddulliau megis defnyddio cymorth technolegol. Byddai rhyddhau gwybodaeth yn hybu trafodaeth gyhoeddus ynghylch a ydyw’r heddlu yn ymgysylltu’n briodol ac yn effeithiol â’r bygythiad sy’n cael ei gyflwyno gan y frawdoliaeth droseddol.
Ffactorau yn erbyn datgelu ar gyfer adran 31 – Byddai datgeliad sy’n datgelu ein galluoedd fforensig digidol yn peryglu tactegau gorfodi’r gyfraith. Gallai troseddwyr ddefnyddio’r wybodaeth i dargedu meysydd gwan gan wybod bod eu gweithgareddau’n llai tebygol o gael eu canfod. Gellid ei defnyddio gan droseddwyr sy’n bwriadu rhoi eu gweithgarwch troseddol ar waith, i nodi cyfyngiadau’r adnoddau hyn a manteisio arnynt.
Mae hwn yn faes o newidiadau cynyddol mewn technoleg, ac felly mae defnyddio data dronau i gynorthwyo gydag ymchwiliadau neu weithrediadau yn arf gwerthfawr. Byddai rhyddhau gwybodaeth sy’n ymwneud ag offer neu dechnolegau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer fforensig dronau, yn cael effaith andwyol ar ein galluoedd plismona. Felly, i liniaru unrhyw risgiau, mae angen diogelu datgelu’r wybodaeth hon, er mwyn sicrhau na all y rhai sy’n bwriadu gwneud hynny ei thrin na thanseilio ei diben mewn unrhyw ffordd.
Byddai unrhyw ddatgelu gwybodaeth a fyddai’n peryglu tactegau gorfodi’r gyfraith, ac felly’n arwain at gyflawni mwy o droseddu drwy leihau’r cyfle i atal a chanfod troseddau, felly’n cynyddu’r risg i ddiogelwch y cyhoedd. Nid yw hyn er budd y cyhoedd.
Prawf cydbwysedd
Mae gorfodi’r gyfraith o’r pwys mwyaf ac ni fydd gwasanaeth yr heddlu yn datgelu gwybodaeth os byddai gwneud hynny’n tanseilio ei ddiben ac yn rhoi diogelwch unigolyn neu unigolion mewn perygl. Er ei bod o fudd i’r cyhoedd i sicrhau tryloywder wrth ddefnyddio arian cyhoeddus wrth blismona’n briodol, ac ymgysylltu’n effeithiol â’r bygythiad a gyflwynir gan droseddwyr, mae elfen gref o fudd y cyhoedd mewn diogelu uniondeb ymchwiliadau a gweithrediadau’r heddlu yn y maes hwn.
Er ei bod o fudd i’r cyhoedd wybod bod gweithgarwch plismona yn briodol ac yn gytbwys o ran materion gorfodi’r gyfraith, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd hyn yn cael ei ddiystyru. Mae defnyddio offer fforensig digidol, boed ar gyfer casglu data dronau, neu unrhyw agwedd arall ar blismona o fewn yr amgylchedd digidol, yn dacteg heddlu sy’n agored i heddluoedd at ddibenion gorfodi’r gyfraith ac yn gallu cynorthwyo wrth atal a datrys troseddau. Ni all unrhyw ddatgeliad sy’n rhwystro ein gallu ac yn cynorthwyo troseddwyr fod er budd y cyhoedd.
Am y rhesymau hyn, yr wyf wedi penderfynu bod y prawf cydbwysedd o blaid peidio â datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Ebrill 2024)