Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 913/2023
Cais:
A.
Rhowch ddadansoddiad llawn o’r holl ddata a gedwir ar gyfer Ymgyrch Snap Heddlu Dyfed-Powys yn 2022, gan gynnwys y canlynol:
B.
Darparwch y data y gofynnir amdano yn A1 i A8 uchod, ond wedi’u hidlo’n benodol i’r cyflwyniadau hynny a wnaed gan feicwyr yn unig.
C.
Darparwch hefyd y manylion y gofynnir amdanynt yn A ar gyfer pob un o’r blynyddoedd calendr canlynol:
2017
2018
2019
2020
2021
2023 – hyd at y mis diweddaraf sydd ar gael
D.
Darparwch enghraifft o lythyr rhybudd cynghorol y mae ceidwad cofrestredig yn ei gael mewn ymateb i gŵyn ei fod wedi goddiweddyd beiciwr yn agos iddo.
Nodwch pa mor hir y cedwir y cofnod rhybudd hwn yn erbyn y ceidwad cofrestredig. (A ydyw’r adolygydd yn gwirio am droseddau blaenorol ar gyfer y rhif cofrestru sydd wedi troseddu?
Sut mae troseddwyr mynych sy’n cael llythyrau rhybudd cynghorol yn cael eu holrhain?)
D. Darparwch ddata sy’n cymharu perfformiad adolygu cyflwyniadau Heddlu Dyfed-Powys â pherfformiad heddluoedd eraill y DU.
(Hynny yw, cymhariaeth o ddeilliannau A1 i A8).
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Adran 12(2) Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 147.7 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244.
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Oherwydd newid yn systemau cofnodi’r heddlu nid yw’n hawdd adalw’r data a gofnodwyd ar ôl 12 Mai 2023 ar hyn o bryd, hyd nes y gellir cwblhau modelu data pellach. Yng ngoleuni hyn, ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais o fewn yr amserlen a bennwyd yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu pob ffeil a ddaeth i law yn yr adran berthnasol a’i hadolygu, a byddai’n rhaid adolygu pob cofnod â llaw i gasglu’r wybodaeth yr ydych yn gofyn amdani yng nghwestiynau 6, 7 ac 8.
Canfuwyd bod cyfanswm o 2,211 o ffeiliau ar ôl 12 Mai 2023. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf pedair munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer ffeil mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
2,211 ffeil x 4 munud = 147.7 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 147.7 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr awdurdodau cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth, mewn perthynas â chwestiwn 1 eich cais, y mae’n hawdd ei hadalw ac sy’n cael ei hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw'n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw rhywfaint o’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ymatebion 1 i 5:
|
|
2017 |
2018 |
2019 |
2020 |
2021 |
2022 |
2023 |
|
Cyfanswm y cyflwyniadau |
22 |
421 |
375 |
330 |
619 |
832 |
866 |
|
Dim gweithredu pellach |
6 |
189 |
126 |
103 |
203 |
232 |
257 |
|
Gweithredu cadarnhaol |
10 |
185 |
230 |
217 |
318 |
451 |
470 |
|
Llythyrau rhybudd |
6 |
47 |
19 |
10 |
98 |
149 |
139 |
Ymateb B
|
Cyfanswm y cyflwyniadau mewn perthynas â goddiweddyd beiciwr yn rhy agos |
0 |
146 |
31 |
20 |
37 |
119 |
229 |
Sylwch nad ydym yn gallu pennu faint o gyflwynwyr sy’n feicwyr eu hunain, felly rydym wedi darparu gwybodaeth ar faint o droseddau yr ymdriniwyd â hwy fel goddiweddyd beiciwr yn rhy agos.
Ymateb C
|
Cynigion cwrs |
|
Cynigion amodol (FPNau) |
|
Aeth i’r llys |
|
|
2017 |
13 |
2017 |
30 |
2017 |
41 |
|
2018 |
11 |
2018 |
37 |
2018 |
66 |
|
2019 |
38 |
2019 |
29 |
2019 |
94 |
|
2020 |
17 |
2020 |
14 |
2020 |
49 |
|
2021 |
133 |
2021 |
46 |
2021 |
89 |
|
2022 |
235 |
2022 |
56 |
2022 |
132 |
Ymateb D
Gweler, wedi’i hatodi, enghraifft o lythyr rhybudd cynghorol y mae ceidwad cofrestredig yn ei gael mewn ymateb i gŵyn bod beiciwr wedi goddiweddyd yn agos iddo.
Sylwer bod cofnod o’r rhybudd yn cael ei gadw yn unol â pholisïau rheoli gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys.
Sylwch fod yr heddlu yn casglu gwybodaeth y mae ei hangen at ddibenion plismona. Dibenion plismona yw’r sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu, cofnodi, gwerthuso, rhannu a chadw gwybodaeth a gallant gynnwys un, neu gyfuniad, o’r canlynol:
Bydd troseddwyr mynych sy’n cael llythyrau rhybudd cynghorol yn cael eu holrhain drwy sicrhau bod yr heddlu’n cael mynediad cyfreithlon at gofnodion DVLA ar geidwaid cerbydau ac, os yw’n briodol, bydd proses adran 1 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988 yn cael ei hystyried.
Sylwch fod yr Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad oes gan Heddlu Dyfed-Powys ddata sy’n cymharu perfformiad adolygu cyflwyniadau Heddlu Dyfed-Powys â pherfformiad heddluoedd eraill y DU.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 18 Ebrill 2024)