Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 725/2023
Cais:
Rwy’n gofyn am wybodaeth am y canlynol os yw’n cael ei chadw ar hyn o bryd, gan gynnwys:
1 - Beth yw'r defnydd o bapur ar draws y sefydliad yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf – mae hyn yn cynnwys argraffu a’r defnydd o ffurflenni papur. Os yw'n ddigon manwl, a ellir ei rannu i swyddfeydd / eiddo penodol?
2 - Os na chedwir data, beth yw uchelgais y sefydliad o ran defnydd papur? A oes uchelgais i fod yn ddi-bapur?
3 - A oes gennych unrhyw bolisïau sy'n ymwneud â phapur, ffurflenni neu ddefnydd argraffu yn y sefydliad a beth maent yn ei nodi?
Eglurhad C:
Mae hwn yn gais eang iawn ac efallai y bydd angen ei anfon at holl adrannau'r heddlu gan eu bod i gyd yn defnyddio ffurfiau papur o ryw fath ac efallai na fydd cofnod o'r defnydd hwn. Mae gennym ddata ar gyfer yr ystafell argraffu a dyfeisiau aml-swyddogaeth. A ydych yn dymuno derbyn y data hwn?
Eglurhad A:
Os nad oes unrhyw ddata ar y defnydd o ffurflenni papur ar hyn o bryd, byddai data'r ystafell argraffu a dyfeisiau aml-swyddogaeth yn ddefnyddiol yn lle hynny.
Byddai gwybodaeth am y canlynol hefyd yn ddefnyddiol;
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Cyfanswm ystafell argraffu |
2,254,890 |
|
Cyfanswm dyfeisiau aml-swyddogaeth |
3,551,099 |
|
Cyfanswm tudalennau |
5,805,989 |
Ymateb 2:
Amherthnasol.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw. Mae hyn oherwydd bod yr Uned Rhyddid Gwybodaeth wedi cael gwybod nad oes unrhyw bolisïau sy'n ymwneud yn benodol â phapur, ffurflenni neu ddefnydd argraffu.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 8 Ebrill 2024)