Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 65/2024
Cais:
Rwy’n ysgrifennu i ofyn am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ynghylch yr hyfforddiant, y gweithdrefnau a’r canllawiau a ddarperir i swyddogion yn eich cwnstabliaeth ynghylch unigolion sy’n defnyddio meddyginiaethau presgripsiwn, yn benodol defnyddwyr canabis meddygol, a allai gael eu stopio wrth weithredu cerbyd.
C1: A fyddech cystal â darparu copïau o ddogfennau/dyfyniadau hyfforddi perthnasol sy'n esbonio i swyddogion sut i reoli sefyllfaoedd lle mae defnyddwyr meddyginiaeth ar bresgripsiwn, yn gyffredinol neu'n benodol i ganabis yn feddygol, yn cael eu stopio wrth weithredu cerbyd ac yn cael canlyniad positif, ond nad oes amhariad ar eu gyrru?
C2: A ddefnyddir profion sobrwydd amgen, ac o dan ba amgylchiadau? Os ydynt, a yw hyn yn ystyried yr anawsterau corfforol y gallai defnyddiwr presgripsiwn eu cael? A fyddech cystal â darparu unrhyw ganllawiau neu ddogfennaeth ategol am yr hyn a roddir i swyddogion ar y rheng flaen?
C3: A oes gan eich swyddogion unrhyw hyfforddiant penodol ynghylch y defnydd o ganabis ar bresgripsiwn? A fyddech cystal â darparu copi/dyfyniad o unrhyw hyfforddiant neu ganllawiau perthnasol?
C4: A fyddech cystal â darparu dyfyniadau o unrhyw ganllawiau a roddwyd i swyddogion y rheng flaen ar weithdrefnau sy’n ymwneud â meddyginiaeth ar bresgripsiwn, yn enwedig ond nid yn unig: O dan ba amgylchiadau mae atafaelu meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn rhesymol, O dan ba amgylchiadau mae arestio deiliad meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn rhesymol, Pa gamau y dylai swyddog heddlu eu cymryd i wirio a yw presgripsiwn yn ddilys, Pa gamau y dylai swyddog heddlu eu cymryd pan fydd aelod o'r cyhoedd yn codi deddfwriaeth nad yw’n gyfarwydd â hi?
Os na ellir datgelu rhai rhannau o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, rhowch y rhesymau dros gadw gwybodaeth o'r fath yn ôl.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ac mae’r manylion fel a ganlyn:
C1: Nid oes gan Heddlu Dyfed-Powys unrhyw ddogfennau penodol yn ymwneud â rheoli'r sefyllfaoedd hyn.
C2: Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio unrhyw brofion sobrwydd amgen.
C3: Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn darparu unrhyw hyfforddiant penodol ynghylch y defnydd o ganabis ar bresgripsiwn.
C4: Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn darparu canllawiau perthnasol penodol gan nad oes angen. Mae swyddogion yr heddlu yn deall cyfraith Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 ac yn cymhwyso hon gyda disgresiwn a chyngor neu arweiniad gan oruchwylwyr, lle bo angen.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Ebrill 2024)