Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 291/2024
Cais:
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiwn 1 y cais hwn yn cael ei chadw neu beidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2) – mae cost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol – yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esemptiedig) roi hysbysiad i chi i’r ymgeisydd sy’n: (a) datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad a ganlyn wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Mae cost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “…Nid yw isadran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifedig cydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo hy mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004.Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (hy lleiafswm o 359.8 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae'r adran rhyddid gwybodaeth wedi ei hysbysu nad yw'r wybodaeth mewn perthynas â'ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Felly, er mwyn canfod pa wybodaeth, os o gwbl, sy’n cael ei chadw mewn perthynas â’ch cais, byddai angen edrych yn unigol ar bob achos o gŵyn ac ymddygiad dros yr amserlen a bennwyd i sefydlu a fyddai’r amgylchiadau’n gyfystyr â, neu a ellid eu disgrifio fel sarhad llafar, niwed corfforol difrifol, sylwadau o natur rywiol neu fwlio. Byddai'n rhaid canfod hefyd ym mhle digwyddodd y digwyddiad ac a oedd unrhyw achosion troseddol cyfatebol. Mae wedi'i ganfod ar gyfer y cyfnod a nodir yn y cais bod cyfanswm o 4,318 o achosion o gŵyn ac ymddygiad y byddai angen ymchwilio iddynt. Amcangyfrifwyd y byddai'n cymryd lleiafswm o bum munud i ymchwilio i berthnasedd pob achos unigol i'ch cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at yr amcangyfrif amser canlynol.
Blwyddyn |
Cwyn |
Ymddygiad |
Cyfanswm terfynol |
2019 |
303 |
31 |
334 |
2020 |
765 |
34 |
799 |
2021 |
820 |
32 |
852 |
2022 |
1057 |
34 |
1091 |
2023 |
995 |
39 |
1034 |
2024 |
203 |
5 |
208 |
Cyfanswm terfynol |
4143 |
175 |
4318 |
4318 o achosion x 5 munud fesul achos = 359.8 awr
Cyfanswm o 359.8 awr i gwblhau'r dasg
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel Hysbysiad Gwrthod i’r CYFAN o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad fod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i'r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais er mwyn lleihau’r amser a ddangosir uchod i gymryd llai na 18 awr i gwblhau’r gwaith. Fodd bynnag, o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarparwyd uchod, mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn golygu ei fod yn llai nag 18 awr gan y bydd yn rhaid defnyddio’r un dull a’r un fformat. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 04/04/2024)