Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 75/2024
Cais:
1) Nifer yr achosion o siop-ladrad a adroddwyd i’ch heddlu yn y blynyddoedd calendr canlynol – 2013, 2014, 2015, 2016, 2017, 2018, 2019, 2020, 2021, 2022 a 2023 (un ffigur ar gyfer pob blwyddyn os gwelwch yn dda).
2) Nifer y troeon y bu swyddog neu gynrychiolydd o’ch heddlu yn ymdrin wyneb yn wyneb â digwyddiad o siop-ladrad yr adroddwyd amdano yn y blynyddoedd calendr canlynol – 2013, 2014, 2015, 2016, 2017, 2018, 2019, 2020, 2021, 2022 a 2023 (un ffigur ar gyfer pob blwyddyn os gwelwch yn dda).
Eglurhad:
Cwestiwn
A ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Sylwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Digwyddiad yw cofnod o gyswllt a wnaed â’r heddlu gan unigolyn/ aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101), a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd lle mae’r heddlu yn tybio bod trosedd wedi digwydd, fel y’i diffinnir gan y gyfraith.
Ateb
Yr wyf yn cyfeirio at ddigwyddiadau.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiynau 1 a 2 y cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i gwestiynau 1 a 2 eich cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn y Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 15,603 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Felly, er mwyn canfod pa wybodaeth, os o gwbl, sy’n cael ei chadw mewn perthynas â chwestiynau 1 a 2 o’r cais byddai angen edrych yn unigol ar bob digwyddiad o dan y categori ‘siop-ladrad’ dros yr amserlen a bennwyd.
Canfuwyd bod cyfanswm o 93,670 o ddigwyddiadau y byddai angen ymchwilio iddynt ar gyfer y cyfnod a bennir yn y cais (h.y. 2013 i 2023). Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i ymchwilio i un digwyddiad i weld a ydyw’n berthnasol i gwestiwn 1 a 2 eich cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at ddadansoddiad o’r amcangyfrif amser canlynol.
2013 = 7,246 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 1,208 awr
2014 = 6,187 digwyddiad x 10 munud fesul digwyddiad = 1,031 awr
2015 = 6,552 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 1,092 awr
2016 = 6,794 digwyddiad x 10 munud fesul digwyddiad = 1,132 awr
2017 = 7,177 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 1,186 awr
2018 = 7,067 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 1,178 awr
2019 = 6,114 digwyddiad x 10 munud fesul digwyddiad = 1,019 awr
2020 = 3,832 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 639 awr
2021 = 3,927 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 655 awr
2022 = 4,507 digwyddiad x 10 munud fesul digwyddiad = 751 awr
2023 = 2,284 digwyddiad x 10 munud fesul digwyddiad = 381 awr
2023 = 31,983 digwyddiad x 10 munud fesul digwyddiad = 5,331 awr *
Cyfanswm o 15,603 awr i gwblhau’r dasg
Sylwer: Yn yr amcangyfrif amser uchod ar gyfer pob blwyddyn cafodd cyfanswm y digwyddiadau eu mireinio yn ôl ‘math o drosedd’, e.e. C-Lladrad, i gynhyrchu’r ffigurau. Byddai angen edrych ymhellach i benderfynu ar y rheini sy’n ymwneud yn benodol â throseddau siop-ladrad.
Ar ben hynny, oherwydd gweithredu system rheoli cofnodion newydd, ni allwn ar hyn o bryd fireinio’r ffigurau fel uchod o 21 Mai 2023, a dyna pam bod dwy set o ffigurau ar gyfer 2023. Y ffigurau a farciwyd gyda ‘*’ yw cyfanswm y digwyddiadau ar ôl 12 Mai 2023.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr, ond o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarperir uchod mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn peri iddo fod o fewn y 18 awr gan y bydd yn rhaid dilyn yr un dull a’r un fformat. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Ewyllys da:
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth, mewn perthynas â chwestiynau 1 a 2 o’ch cais, y mae’n hawdd ei hadalw ac sy’n cael ei hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Cwestiynau 1 a 2
|
Cyfanswm nifer y troseddau siop-ladrad a gadarnhawyd a gofnodwyd |
||
|
Blwyddyn |
Cyfanswm a gofnodwyd |
Cyfanswm nifer y troseddau lle bu’r heddlu’n ymdrin â hwy wyneb yn wyneb |
|
2013 |
1,630 |
1,242 |
|
2014 |
1,332 |
997 |
|
2015 |
1,490 |
1,058 |
|
2016 |
1,579 |
1,141 |
|
2017 |
1,893 |
1,302 |
|
2018 |
2,029 |
1,197 |
|
2019 |
1,837 |
903 |
|
2020 |
1,270 |
567 |
|
2021 |
1,295 |
479 |
|
2022 |
1,819 |
490 |
|
2023 |
1,669 |
382 |
Sylwer: Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi rhoi Canolfan Troseddau a Digwyddiadau ar waith, i wella effeithlonrwydd, felly mae’n bosibl yr ymdriniwyd â chyfran o’r digwyddiadau dros y ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a phennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Ebrill 2024)