Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 255/2024
Cais:
Mae’r cwestiynau’n cyfeirio at y Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019.
A allwch chi ateb y cwestiynau canlynol fesul blwyddyn galendr yn dechrau o 1 Ionawr 2019?
1. Sawl gorchymyn amddiffyn rhag stelcio a roddwyd?
a. Byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech grwpio’r gorchmynion amddiffyn rhag stelcio a gyhoeddwyd ar sail y grwpiau oedran canlynol: 18 oed neu’n iau, 18 i 64 oed, a 64 oed neu’n hŷn, fesul blwyddyn.
i. Os nad yw hyn yn bosibl, rhowch y data ym mha bynnag gategorïau oedran sydd ar gael.
2. Faint o arestiadau a wnaed o dan amheuaeth o stelcio?
3. Sawl achos o dorri gorchymyn amddiffyn rhag stelcio a gofnodwyd?
4. Sawl adroddiad o stelcio a gofnodwyd?
Cwestiwn i geisio eglurhad:
O ran cwestiwn 4, beth yw ystyr ‘adroddiad’? A ydych chi’n cyfeirio at alwadau 101/999 a gafwyd?
Ateb i egluro:
Ydw, galwadau 101/999, ac unrhyw ffordd arall y gall aelod o’r cyhoedd godi pryder ynghylch cael ei stelcio gyda’r heddlu.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i gwestiwn 4 eich cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn y Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 47,231 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn
https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244.
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw rhywfaint o’r wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiwn 4 eich cais yn cael ei gadw mewn fformat hawdd ei adfer. Yng ngoleuni hyn, ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais o fewn yr amserlen a bennwyd yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu ac adolygu pob digwyddiad i nodi a oedd yn ymwneud ag adroddiad o stelcio, gan nad oes hidlyddion perthnasol.
Canfuwyd bod cyfanswm o 566,771 o ddigwyddiadau ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2023. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf bum munud i gael yr wybodaeth, a’i hadolygu, ar gyfer un digwyddiad mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Byddai’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser a geir isod.
2019 – 8,692
2020 – 130,045
2021 – 136,328
2022 – 138,304
2023 – 153,402
= 566,771 digwyddiad x 5 munud fesul cofnod = 47,231 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 47,231 awr
Sylwer: Bu modd adfer gwybodaeth i ateb cwestiynau 1 i 3 o’ch cais o fewn y terfyn amser o 18 awr, ac y mae wedi’i hamlinellu ar ddiwedd y ddogfen fel arwydd o ewyllys da a thu allan i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn gymwys.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth mewn perthynas â chwestiynau 1 i 3 eich cais, y bu’n hawdd ei hadalw, a’i hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais
1:
|
Blwyddyn
|
Gorchmynion amddiffyn rhag stelcio dros dro a roddwyd |
Gorchmynion amddiffyn rhag stelcio a roddwyd |
Grŵp oedran |
|
2019 |
Dim |
Dim |
Amherthnasol |
|
2020 |
1 |
Dim |
64 neu’n hŷn |
|
2021 |
Dim |
2 |
18 – 64 |
|
2022 |
2 |
5 |
18 – 64 |
|
2023 |
Dim |
1 |
18 – 64 |
|
2024 |
Dim |
Dim |
Amherthnasol |
2:
|
Blwyddyn |
Nifer yr arestiadau |
|
2019 |
83 |
|
2020 |
235 |
|
2021 |
224 |
|
2022 |
285 |
|
2023 |
254 |
3: 0
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Ebrill 2024)