Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 378/2024
Cais 1-4:
O ddydd Gwener 5 Ebrill 2024:
a
Eglurhad: Nifer y gwarantau ar gyfer pob gradd. Crynhowch y disgrifiad ar gyfer pob categori.
Ymatebion 1 a 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
GRADD |
Troseddau |
|
A – 34 gwarant sy’n parhau ar 5/4/2024 |
Bwrgleriaeth Methu cydymffurfio â gofynion gorchymyn cymunedol Torri gorchymyn dedfryd ataliedig Trafod nwyddau wedi’u dwyn a thwyll (Gwarant Llys y Goron) Cynllwynio i ddwyn oddi wrth rywun arall (Gwarant Llys y Goron) Methu cydymffurfio â gofynion goruchwyliad Cyflenwi cyffuriau dosbarth A a B, bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant (arian sychion) (Gwarant Llys y Goron) Derbyn nwyddau wedi’u dwyn a thwyll (Gwarant Llys y Goron) Cymryd a gwneud delweddau anweddus Torri ac ymosod cyffredin Clwyfo gyda bwriad (Gwarant Llys y Goron) Treisio ac ymosodiad rhywiol ar fenyw Ymosodiad a waethygwyd gan hiliaeth Dwyn gan weithiwr (Gwarant Llys y Goron) Niwed corfforol difrifol (GBH) ac affräe Mynd ymaith heb dalu, siop-ladrad, bod â gwrthrych llafnog yn ei feddiant (Gwarant Llys y Goron) Methu darparu sampl o anadl a gyrru peryglus (Gwarant Llys y Goron) Blacmel a bwrglera heb fod mewn annedd (Gwarant Llys y Goron) Bod ag arf tanio ffug yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi ofn neu drais (Gwarant Llys y Goron) Cynhyrchu delweddau anweddus o blant Cynllwynio i ddwyn cerbyd modur (Gwarant Llys y Goron)
|
|
B – 63 gwarant sy’n parhau ar 5/4/2024 |
Bod ag arf bygythiol yn ei feddiant Gyrru dan waharddiad Gyrru ar gyffuriau Bod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant Ymosodiad Difrod troseddol Ymddygiad bygythiol Gwir niwed corfforol (ABH) Cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B Bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant (arian sychion) Difrod troseddol Difrod troseddol domestig Aflonyddu a chyfathrebu maleisus Ymddygiad bygythiol, difrïol Ymosod ar swyddog heddlu TWOC (Dwyn heb ganiatâd) Gormodedd alcohol Dwyn cerbyd modur Curo, ymosod ar weithiwr brys a rhwystro’r heddlu Bod â gwrthrych llafnog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus Twyll Gyrru peryglus Trefn gyhoeddus adrannau 4 a 5 Clwyfo maleisus Gwyrdroi cwrs cyfiawnder Bod ag arf bygythiol yn ei feddiant Meddw ac afreolus Dim yswiriant Methu darparu sampl i’w ddadansoddi Rhodio â chyfarpar dwyn
|
|
C – 16 gwarant sy’n parhau ar 5/4/2024 |
Methu hysbysu bod newid mewn amgylchiadau Dwyn Siop-ladrad Helpu ac annog siop-ladrad Troseddau pysgodfeydd Masnachwr yn ymhel ag arfer masnachol sy’n gamarweiniol Mynd ymaith heb dalu
|
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cyhoeddwyd ein gwarant hynaf yn 2000 ac fe’i cyhoeddwyd mewn achos o dreisio ac ymosodiad rhywiol.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys gan nad yw’r wybodaeth hon wedi’i chofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 29 Ebrill 2024)