Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 88/2024
Cais:
Mae fy nghais am wybodaeth yn ymwneud â chwiliadau Heddlu Dyfed-Powys ar gyfleusterau bridio hebogiaid tramor, neu unigolion y credir eu bod yn ymwneud â chaffael, cadw neu werthu hebogiaid tramor.
Hoffwn gael y data canlynol ar gyfer y cyfnod o nawr yn mynd yn ôl hyd at y flwyddyn 2015 yn gynwysedig.
1a. Dyddiad y chwiliad.
1b. Lleoliad y chwiliad ac enw’r busnes/unigolyn oedd yn destun y chwiliad. Rheswm dros chwilio tŷ/adeilad yr unigolyn/busnes hwnnw. Sefydliadau a oedd yn bartneriaid yn y chwiliad.
1c. Tystiolaeth a atafaelwyd o'r chwiliad hwnnw.
1d. Unrhyw gamau pellach a gymerwyd o ganlyniad i’r chwiliad, gan gynnwys eitemau a atafaelwyd, ymchwiliad pellach gan yr heddlu, neu unrhyw euogfarnau/cyfyngiadau a osodwyd ar y busnes/unigolyn o ganlyniad iddo.
2. Hoffwn wybod hefyd a yw Heddlu Dyfed-Powys wedi cyfathrebu ag awdurdodau neu unigolion yn Bahrain, Emiradau Arabaidd Unedig neu Saudi Arabia ynglŷn â phryderon ynghylch anghyfreithlondeb posibl o fewn masnach gyfreithiol hebogiaid tramor. Hoffwn gael yr wybodaeth honno ar gyfer yr holl flynyddoedd ers 2015, gan gynnwys y flwyddyn honno.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd eisoes ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiynau 1-2 o’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) - Esemptiad, lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi’r ymgeisydd sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu'r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad a ganlyn wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Mae cost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn nodi:
“…Nid yw isadran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i gwestiynau 1-2 eich cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004.
Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 59 awr i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae'r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw'r wybodaeth mewn perthynas â'ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Felly, er mwyn canfod pa wybodaeth, os o gwbl, a gedwir mewn perthynas â chwestiynau 1 - 2 o’r cais byddai angen archwilio pob adroddiad yn ymwneud â bywyd gwyllt yn unigol er mwyn darganfod a gafodd unrhyw rai o’r allweddeiriau a restrir isod eu cofnodi fel elfen o'r adroddiad: 'Hebog Tramor', 'Cyfleusterau bridio Hebog Tramor', a 'Bahrain', ‘Yr Emiradau Arabaidd Unedig' neu ‘Saudi Arabia'.
Canfuwyd ar gyfer y cyfnod a nodir yn y cais (h.y. 2015 - 2024) bod cyfanswm o 352 o adroddiadau y byddai angen eu harchwilio.
Amcangyfrifwyd y byddai'n cymryd lleiafswm o 10 munud i archwilio cofnod unigol i ganfod a yw’n berthnasol i gwestiwn 1 - 2 o'ch cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at yr amcangyfrif amser a ganlyn.
352 adroddiad yn ymwneud â bywyd gwyllt x 10 munud = 59 awr
Cyfanswm yr amcangyfrif amser i gwblhau'r cais cyfan = 59 awr.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cais hwn YN GYFAN o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad fod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, hysbysu’r ymgeisydd o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), o’r ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais er mwyn lleihau’r amser a ddangosir uchod i gymryd llai na 18 awr i gwblhau’r gwaith. Fodd bynnag, o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarparwyd uchod, mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn golygu ei fod yn llai nag 18 awr gan y bydd yn rhaid defnyddio’r un dull a’r un fformat. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 5 Ebrill 24)