Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 153/2024
Cais:
1. Nodwch faint o bobl sy’n cyflawni hunanladdiad tra naill ai’n cael eu rhyddhau dan ymchwiliad neu ar fechnïaeth yr heddlu am honiadau o ymosodiad rhywiol a/neu dreisio.
2. Nodwch faint o farwolaethau y mae eich heddlu wedi rhoi gwybod amdanynt i grwner:
a) lle’r oedd yr ymadawedig wedi bod yn destun ymchwiliad gan eich heddlu; a
b) lle’r oedd y drosedd yn un o dreisio a/neu ymosodiad rhywiol.
3. Nodwch faint o achosion sydd wedi cael eu hadrodd i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fel mater o farwolaeth neu anaf difrifol gan eich heddlu:
a) lle mae unigolyn wedi marw; a
b) lle mae unigolyn wedi bod yn destun ymchwiliad am drosedd o dreisio a/neu ymosodiad rhywiol.
Rhowch y wybodaeth yr ydym wedi gofyn amdani ar gyfer y bum mlynedd ddiwethaf.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiynau 1 a 2 y cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan:
“Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i gwestiynau 1 a 2 eich cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn y Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004.
Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 957 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Felly, er mwyn sefydlu pa wybodaeth, os o gwbl, a gedwir mewn perthynas â nifer y bobl sydd wedi cyflawni hunanladdiad yn dilyn cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad, neu ar fechnïaeth yr heddlu, am ymosodiad rhywiol neu dreisio. Mewn perthynas â chwestiwn 2, mae pob marwolaeth annaturiol yn cael ei chyfeirio at y crwner perthnasol, ond byddai pennu ‘statws’ yr atgyfeiriadau yn dod o fewn cwmpas yr amcangyfrif amser hwn.
Yn ystod y cyfnod a nodir yn y cais (h.y. rhwng 2019 a 2023) canfuwyd bod cyfanswm o 5,741 y byddai angen ymchwilio iddynt.
Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf 957 munud i ymchwilio i un digwyddiad i weld a ydyw’n berthnasol i gwestiynau 1 a 2 eich cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at yr amcangyfrif amser canlynol.
2019 – 1,106 x 10 munud = 184 awr
2020 – 1,184 x 10 munud = 197 awr
2021 – 1,127 x 10 munud = 188 awr
2022 – 1,192 x 10 munud = 199 awr
2023 – 1,132 x 10 munud = 189 awr
Amcangyfrif o’r amser i gwblhau’r cais cyfan = 957 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr, ond o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarperir uchod mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn peri iddo fod o fewn y 18 awr gan y bydd yn rhaid dilyn yr un dull a’r un fformat. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Arwydd o ewyllys da:
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu’r wybodaeth ganlynol, a hyderaf y bydd yn ddefnyddiol i chi. Nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
Cwestiwn 3 – Atgyfeiriadau Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn marwolaeth neu anaf difrifol
|
Adroddiadau i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn marwolaeth neu anaf difrifol |
||
|
Blwyddyn |
(A) |
(B) |
|
2019 |
22 |
0 |
|
2020 |
14 |
0 |
|
2021 |
18 |
1 |
|
2022 |
27 |
2 |
|
2023 |
23 |
0 |
Allwedd: Mae colofnau (A) a (B) yn ymwneud â’r wybodaeth ganlynol:
(A) – Cyfanswm nifer yr atgyfeiriadau.
(B) – Bu’r unigolyn yn destun ymchwiliad am drosedd o dreisio a/neu ymosodiad rhywiol.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Ebrill 2024)