Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 981/2023
Cais 1 - 4:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae’r Tîm Dysgu a Datblygu yn gallu rhannu gwybodaeth a roddir i recriwtiaid newydd dan hyfforddiant.
Yn yr wybodaeth a roddir ar gamddefnyddio cyffuriau, mae CBMP yn cael ei gynnwys a chynghorir y myfyrwyr i ymdrin ag unrhyw honiadau bod eitemau a ganfuwyd yn ystod chwiliad yn CBMP yn y modd a ganlyn:-
Dywedir wrthynt na fydd canabis llysieuol neu resin canabis yn CBMP ac os byddant yn dod o hyd i ganabis llysieuol neu resin canabis, dylent ddelio ag ef fel y byddent yn ei wneud ag unrhyw gyffur arall a ddosbarthwyd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.
Os nad yw’r swyddog heddlu’n fodlon ei fod wedi profi’n ddigonol ei hawl i’r CBMP, dylai gymryd camau gweithredol yn unol ag un o’r camau canlynol:-
Atafaelu’r cynhyrchion ac arestio a chyfweld yr unigolyn y canfuwyd bod y CBMP yn ei feddiant er mwyn ymchwilio i weld a yw mewn meddiant cyfreithlon ohono.
Atafaelu'r cynhyrchion a threfnu cyfweliad gwirfoddol er mwyn ymchwilio i weld a yw mewn meddiant cyfreithlon ohonynt.
Mae swyddogion yn cael gwybod y dylent bob amser ystyried bod y rhai sy’n cyflwyno eu hunain fel rhai sy’n meddu ar CBMP yn gyfreithlon yn aml yn aelodau o’n cymunedau sydd fwyaf agored i niwed ac yn aml ag anableddau ac y dylid ystyried hyn cyn penderfynu ar y camau gweithredu y maent yn eu cymryd. Fodd bynnag, dywedir wrthynt na ddylent dderbyn yr hyn a ddywedir wrthynt yn unig ac y dylent ymchwilio'n llawn i weld a yw'r unigolyn yn meddu ar y CBMP yn gyfreithlon ai peidio.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Adolygir hyfforddiant yn flynyddol oni bai fod darn newydd o ddeddfwriaeth yn cael ei weithredu yn y cyfamser. Mae'r cynnwys yn cael ei ddiweddaru yn unol â disgrifyddion dysgu'r Coleg Plismona.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Os bydd swyddogion yn dod o hyd i’r hyn y maent yn ei gredu yw CBMP, neu’r hyn a nodir yn CBMP gan y sawl sy’n cael ei chwilio, dylai’r swyddog ofyn i’r unigolyn hwnnw gyflwyno tystiolaeth o un neu fwy o’r canlynol:-
Copi o'r presgripsiwn
Llythyr gan y meddyg sy'n rhagnodi yn amlinellu ei hawl i'r CBMP
Y pecyn gwreiddiol gydag enw’r unigolyn arno fel yr unigolyn sydd â hawl i gael y CBMP
Math o brawf adnabod llun derbyniol, megis trwydded yrru neu basbort, i sicrhau manylion yr unigolyn sydd â hawl i gael y CBMP
Ymateb 4:

Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 23 Ebrill 2024)